Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
I ddathlu menywod yng ngwasanaeth yr heddlu, mae Canolfan Treftadaeth Heddlu De Cymru yn eich croesawu i'r arddangosfa ffotograffiaeth rithwir hon. Mae'r arddangosfa yn anrhydeddu'r menywod sy'n
llunio ein sefydliad ar hyn o bryd, a'r rhai a oedd wedi paratoi'r ffordd ar gyfer cydraddoldeb rhywiol drwy gydol hanes ein heddlu.
Daw'r menywod ysbrydoledig sy'n rhan o'r arddangosfa hon o amrywiaeth o gefndiroedd ac maent wedi ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau gwahanol yn Heddlu De Cymru a'i heddluoedd rhagflaenol.
Er bod yr holl fenywod yma wedi gwasanaethu ledled de Cymru, mae pob un o'u straeon a'u teithiau
drwy fywyd yn unigryw. Mae'r arddangosfa hon yn cydnabod teithiau'r menywod hynny, ac yn tynnu
sylw at yr heriau y gwnaethant eu hwynebu ar hyd y ffordd.