Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd penwythnos pedwar diwrnod i nodi Jiwbilî Blatinwm Ei Mawrhydi y Frenhines yn gweld llu o ddathliadau lleol a digwyddiadau cenedlaethol yn cael eu cynnal rhwng dydd Iau, 2 Mehefin a dydd Sul, 5 Mehefin 2022.
Dyma'r Frenhines gyntaf o blith brenhinoedd a breninesau Prydain i dreulio saith degawd ar yr orsedd a bydd dathliadau'r jiwbilî yn cynnwys Gŵyl Banc ychwanegol.
Bydd y penwythnos hir yn gweld amrywiaeth eang o ddigwyddiadau eraill yn y dyddiadur – gan gynnwys gŵyl In It Together ger Margam; cyngherddau cerddoriaeth ym Mharc Singleton, Abertawe a Chastell Caerdydd; gemau criced T20; a rownd derfynol gemau ail gyfle Cymru yng Nghwpan y Byd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Danny Richards:
“Bydd rhai diwrnodau cyffrous dros benwythnos hir y Jiwbilî Blatinwm, yn llawn dathliadau 70 mlynedd Ei Mawrhydi y Frenhines ar yr orsedd – yn ogystal â llu o ddigwyddiadau cyhoeddus eraill ledled De Cymru.
“Rydym yn gwybod y bydd miloedd o bobl yn mynychu partïon ar y stryd, digwyddiadau tanio Goleuadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines, ac amrywiaeth o ddigwyddiadau dinesig eraill.
“Mae De Cymru hefyd yn cynnal gwyliau a gigs cerddoriaeth, digwyddiadau cymunedol mawr, criced T20 a rownd derfynol gemau ail gyfle Cymru yng Nghwpan y Byd.
“Yn Heddlu De Cymru, rydym yn falch o chwarae ein rhan i sicrhau bod popeth dros y penwythnos hir yn mynd yn ddidrafferth.
“Rydym yn disgwyl bod yn eithriadol o brysur, ac felly rydym yn apelio, yn ôl yr arfer, i bobl fwynhau eu hunain yn ddiogel, ac i barchu staff a'r bobl eraill sy'n bresennol yn y digwyddiadau hyn, yn ogystal â'n swyddogion ein hunain, ein PCSOs, ein staff a'n heddweision gwirfoddol a fydd allan ar hyd y lle dros y penwythnos. Os bydd angen i chi roi gwybod am rywbeth, gallwch wneud hynny ar ein gwefan. Os bydd argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.”
Yr heddlu neu ei bartneriaid: Â phwy y dylwn i gysylltu?
Riportio rhywbeth i'r heddlu
Cysylltu â'r heddlu
Cyngor a gwybodaeth
Cyngor Abertawe
Cyngor Bro Morgannwg
Cyngor Caerdydd
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Merthyr Tudful
Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
Trafnidiaeth Cymru
Traffig Cymru