Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dathliadau'r Nadolig:
Cadwch lygad ar ffrindiau ac anwyliaid y Nadolig hwn. Arhoswch gyda'ch gilydd ar nosweithiau allan, peidiwch â gadael diodydd heb neb i ofalu amdanyn nhw a pheidiwch byth â derbyn diod os na welsoch chi'r ddiod yn cael ei thywallt.
Cofiwch, gall bariau a chlybiau wrthod gadael i rywun ddod i mewn os byddant yn amau ei fod wedi meddwi – felly beth am #YfedLlaiMwynhauMwy?
Peidiwch â gadael pethau i ffawd - trefnwch eich taith adref ymlaen llaw ac os ydych chi'n defnyddio tacsi, byddwch yn siŵr eich bod ond yn defnyddio cwmnïau trwyddedig.
Gyrru dan ddylanwad:
Mae gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn un o'r #PumPerygl a gall beryglu bywydau. Os byddwch chi'n mynd allan am ddiodydd, gadewch y car gartref.
Peidiwch byth â derbyn lifft gan rywun sydd wedi bod yn yfed neu'n cymryd cyffuriau.
Os byddwch yn amau bod rhywun yn gyrru dan ddylanwad, rhowch wybod. Peidiwch byth â rhoi pwysau ar rywun sydd wedi bod yn yfed i yrru.
Gallech fod dros y terfyn o hyd drannoeth.
Marchnadoedd y Nadolig, hwyl yr ŵyl, nosweithiau allan gyda chydweithwyr, streiciau'r rheilffyrdd. Mae'r rhain i gyd yn cyfrannu at strydoedd, bariau, trafnidiaeth gyhoeddus, ffyrdd prysurach, felly da chi, cynlluniwch ymlaen llaw.
Bydd ymgyrchoedd amrywiol yn ein trefi a'n dinasoedd i'ch cadw chi'n ddiogel ddydd a nos, a bydd mentrau gydol y flwyddyn fel y Bws Diogelwch a Man Cymorth Abertawe ar gael ar ddiwrnodau penodol hefyd.
Yn siopa Nadolig:
Ydych chi allan yn helpu Siôn Corn?
Lleihewch y risg o ddioddef lladrad a sicrhewch eich diogelwch personol drwy barcio mewn ardaloedd wedi'u goleuo, meysydd parcio diogel os oes modd, a sicrhau bod pob ffenest a drws ar gau ac wedi'u cloi.
Peidiwch â gadael nwyddau a brynwyd mewn cerbydau, ond os oes rhaid gwneud hynny, cadwch nhw allan o'r golwg yng nghist y car.
Buddsoddwch mewn cynhyrchion diogelwch lle bo'n bosibl fel cloeon D o ansawdd da ar gyfer beiciau.
Peidiwch â cholli golwg ar eich bagiau, dim hyd yn oed am eiliad. Cadwch eich bagiau llaw ar gau, a waledi neu byrsiau mewn poced y tu mewn iddynt.
Yn siopa ar-lein:
Gwnewch yn siŵr bod y wefan yn ddiogel cyn i chi roi unrhyw fanylion talu neu fanylion personol. Edrychwch allan am yr eicon clo clap wedi'i gau ar y porwr a gwnewch yn siŵr bod cyfeiriad y wefan yn dechrau gyda https://
Defnyddiwch ddull talu sy'n cynnig diogelwch i'r prynwr, ac os yw'n bosibl, cerdyn credyd.
Ni fydd sefydliadau ariannol byth yn gofyn am eich manylion bancio ar-lein drwy e-bost neu dros y ffôn, nac yn gofyn am eich PIN.
Dysgwch sut i adnabod negeseuon e-bost, negeseuon testun neu negeseuon uniongyrchol twyllodrus, neu gynigion ar y cyfryngau cymdeithasol.
Clirio wedi'r Nadolig:
Gwaredwch bapur lapio yn ofalus – gallai bocsys gwag hysbysebu beth sydd gennych gartref.
Cofrestrwch eiddo gwerthfawr am ddim ar www.immobilise.com.
Mae ffigurau'n dangos bod dioddefwyr sgamiau siopa ar-lein dros y Nadolig wedi colli £1,000 yr un
Bydd rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn ein helpu ni i'ch helpu chi. Nid yn unig y gallwn fynd i leoliadau i ddelio â'r sefyllfaoedd, ond gall adroddiadau helpu i lywio ein patrolau a'n mesurau diogelwch eraill a rhai ein partneriaid.
Oes man lle nad ydych wedi teimlo'n ddiogel? Oes goleuadau stryd wedi torri ar eich ffordd i'r gwaith? Rhowch wybod drwy'r fenter Street Safe cenedlaethol yn ddienw er mwyn rhoi gwybod i asiantaethau lleol, gan gynnwys plismona, am ardaloedd lle y gall fod angen sylw.
Ydych chi'n poeni am anwylyn ac yn amau y gall fod yn ddioddefwr camdriniaeth? Ydych chi'n amau bod rhywun yn camfanteisio ar rywun arall? Codwch eich llais; rydym yn cymryd adroddiadau o ddifrif ac yn gweithio gydag amryw asiantaethau partner er mwyn sicrhau bod modd cynnig gwasanaethau cymorth priodol.
Mae ein timau yma i gymunedau De Cymru ddydd a nos, ond gan fod angen cymorth ar gynifer o bobl, gall ein llinellau ffôn fod yn brysur ar adegau.
Wyddoch chi fod amrywiaeth o ffyrdd o gysylltu â ni ar-lein?
Bydd ein cydweithwyr yn yr ystafell reoli yn ymdrin â phob cysylltiad ar-lein a byddant yn eu blaenoriaethu yn yr un ffordd yn union â'r galwadau a dderbyniwn.
Felly os bydd angen ein cymorth arnoch chi, beth am roi cynnig ar:
Yn ansicr a yw eich adroddiad, eich ymholiad neu'ch pryder yn fater i'r heddlu neu'n un i'n partneriaid? Edrychwch ar y canllaw bach defnyddiol hwn.
A oes cymdogion neu aelodau o’ch cymuned sydd angen cymorth ychwanegol dros yr ŵyl?
Oes amser gyda chi i fynd i’w gweld?
Os yw’n gyfnod anodd o’r flwyddyn i chi neu rywun rydych yn ei adnabod, cofiwch fod llawer o sefydliadau a all helpu.
Y Samariaid: 116 123
The Trussell Trust: 0808 2082138
Crisis (digartrefedd): 01792 674900
Mind Cymru: 0300 123 3393
Cruse Bereavement Support: 0808 808 1677
DAN 24/7 (Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru): 0808 808 2234 neu tecstiwch DAN i 81066