
- Cynlluniwch eich taith adref ymlaen llaw, a gwnewch yn siŵr mai dim ond cwmnïau tacsi trwyddedig byddwch chi’n eu defnyddio
- Cadwch lygad ar eich diodydd a pheidiwch yfed unrhyw rai nad ydych wedi eu gweld yn cael eu harllwys
- Gall bariau a chlybiau wrthod gadael rhywun mewn os byddant yn amau ei fod wedi meddwi
- Arhoswch gyda’ch grŵp a gofalwch am eich gilydd

- Peidiwch byth â gyrru os ydych chi wedi cael diod neu wedi cymryd cyffuriau
- Cofiwch, gallwch fod dros y terfyn y diwrnod nesaf o hyd, felly arhoswch nes bod yr alcohol wedi gadael eich system
- Os byddwch yn amau bod rhywun yn gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, rhowch wybod i ni – gallai achub bywyd
- Peidiwch â rhoi pwysau ar rywun sydd dros y terfyn yfed a gyrru

- Ceisiwch osgoi gadael eich anrhegion yn y ffenest lle y gall pobl eu gweld
- Gwaredwch bapur lapio anrhegion Nadolig yn ofalus – gallai gadael bocsys gwag y tu allanroi gwybod i bobl eraill beth sydd gennych y tu mewn
- Os ydych yn mynd i ffwrdd, peidiwch â rhannu hynny ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n rhoi gwybod i bobl bod eich cartref yn wag
- Cofrestrwch eich eiddo gwerthfawr am ddim yn www.immobilise.com

- Gwnewch yn siŵr bod gwefan yn ddilys
- Gwnewch yn siŵr bod tudalennau talu yn ddiogel (edrychwch allan am y clo clap wedi’i gau yn y bar cyfeiriad)
- Dysgwch sut i adnabod negeseuon e-bost, negeseuon testun neu negeseuon uniongyrchol twyllodrus, neu gynigion twyllodrus ar y cyfryngau cymdeithasol

- Peidiwch â cholli golwg ar eich bagiau wrth fynd o le i le
- Cadwch eich bag llaw ar gau a’ch waled/pwrs mewn poced y tu mewn iddo
- Ceisiwch osgoi gadael pethau fel anrhegion mewn man lle y gall pobl eu gweld yn eich cerbyd

A oes cymdogion neu aelodau o’ch cymuned sydd angen cymorth ychwanegol dros yr ŵyl?
Oes amser gyda chi i fynd i’w gweld?
Os yw’n gyfnod anodd o’r flwyddyn i chi neu rywun rydych yn ei adnabod, cofiwch fod llawer o sefydliadau a all helpu.
Y Samariaid: 116 123
The Trussell Trust: 0808 2082138
Crisis (digartrefedd): 01792 674900
Mind Cymru: 0300 123 3393
Cruse Bereavement Support: 0808 808 1677
DAN 24/7 (Llinnell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru): 0808 808 2234 neu tecstiwch DAN i 81066