Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Costau'r Nadolig yn archwilio canlyniadau posibl cost trosedd i chi. Boed yn golled bywyd, yn gar wedi'i ddifrodi'n llwyr, yn fenyw llawn ofn, neu'n ddedfryd yn y carchar, rydym yn codi ymwybyddiaeth o'r gost wirioneddol bosibl, pe baech yn cyflawni trosedd.
Bob blwyddyn mae gormod o deuluoedd yn colli anwyliaid am fod pobl yn dewis gyrru ar ôl iddynt fod yn y dafarn, yn aml mae llawer o fenywod yn llawn ofn ar Ddydd Nadolig oherwydd bygythiadau gan gyn-bartneriaid neu bartneriaid presennol, mae bywydau'n cael eu colli oherwydd digwyddiadau un ergyd, ac mae anrhegion Nadolig teuluoedd yn cael eu dwyn.
Dyma gost wirioneddol y Nadolig, ac rydym am i chi feddwl. Beth yw cost trosedd i chi?
Awydd ddod i'n siop Costau'r Nadolig dros dro? Mae wedi'i lleoli yng Nghanol Dinas Abertawe, yn y Cwadrant. Bydd ein hagoriad mawr ddydd Gwener 29 Tachwedd, a byddwn yn cau ar Noswyl Nadolig. Byddwn ar agor rhwng 10am a 4pm, saith diwrnod yr wythnos.
Os hoffech gwrdd â'n swyddogion o wahanol dimau, trafod ein hopsiynau recriwtio, gweld beic modur sydd wedi bod mewn gwrthdrawiad, darllen straeon yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn am gost troseddu i bobl – galwch draw!
Dywedodd yr Arolygydd Plismona yn y Gymdogaeth ar gyfer Canol Abertawe, Andrew Hedley: “Yr adeg hon o'r flwyddyn, mae llawer ohonom yn allan yn mwynhau ein hunain ac yn prynu anrhegion ar gyfer ffrindiau a theulu, ond yn anffodus nid yw hyn yn wir i bawb dros y Nadolig.
“Drwy agor ein siop dros dro, rydym yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o droseddau rydym yn eu gweld dros y Nadolig, gan gynnwys cam-drin domestig, gyrru dan ddylanwad alcohol/cyffuriau, trais sy'n gysylltiedig â'r economi liw nos, sgamiau, a throseddau meddiangar.
“Rydym am i bobl feddwl ddwywaith am gyflawni'r troseddau hyn a dangos y canlyniadau drwy ddangos cost bosibl troseddau i chi. Gwyddom hefyd y bydd rhai pobl yn wynebu risg o gael eu cam-drin neu fath arall o droseddu, felly mae'n bwysig ein bod yma i roi cyngor diogelwch.”
Roedd Elliot, 62 oed, yn cerdded adref o wasanaeth Noswyl Nadolig pan fethodd menyw 34 oed a oedd yn gyrru beic modur stopio ar gyfer golau coch, gan daro Elliot.
Bu farw Elliot yn yr ysbyty drannoeth.
Roedd y fenyw wedi yfed tri pheint y noson honno a phenderfynodd yrru adref. Cafodd ei charcharu am bum blynedd.
*Y gosb fwyaf am achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn y DU yw carchar am oes.
Roedd Louise, 34 oed, ar noson allan gyda'i ffrindiau pan ymosododd menyw 27 oed arni yn ddireswm.
Ymosododd y fenyw ar wyneb Louise â gwydr, gan achosi anafiadau difrifol a niwed i'w llygad.
Cafodd y fenyw ei charcharu am 5 mlynedd.
*Y gosb fwyaf am achosi Niwed Corfforol Difrifol (GBH) yw pum mlynedd yn y carchar.
Roedd Hassan, 21 oed, yn mwynhau diodydd gyda'i ffrindiau ond wrth iddo adael y dafarn, cafodd ei daro gan Max, 24 oed.
Un ergyd oedd angen i beri i Hassan golli ei gydbwysedd a disgyn, gan daro ei ben ar gyrbin. Bu farw ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach.
Dywedodd Max ei fod yn ddrwg ganddo a'i fod yn ymddwyn yn wahanol pan oedd yn cymryd cyffuriau. Cafodd ei garcharu am naw mlynedd.
*Y gosb fwyaf am ddynladdiad yn y DU yw 10 mlynedd yn y carchar.
Torrodd James, 45 oed, i mewn i gartref teulu pan oedd pawb yn cysgu. Aeth ag anrhegion Nadolig, gan gynnwys pedair dyfais electronig, a oedd o dan y goeden.
Deffrodd y fam a gweld James yn chwilio drwy'r cypyrddau i fyny'r grisiau cyn iddo ddianc.
Cafodd James ei ddal a'i garcharu am ddwy flynedd a chwe mis.
*Y gosb fwyaf am fwrgleriaeth yn y DU yw 14 o flynyddoedd yn y carchar.
Dywedodd Kevin wrth ei gariad ei fod yn ei charu. Ond os nad oedd e'n cael ei ffordd ei hun, byddai'n anfon negeseuon llais, sain a thestun a phostiadau cyfryngau cymdeithasol bygythiol a chamdriniol, a gwnaeth fygwth ei thrywanu hyd yn oed.
Gwnaeth ei gariad benderfyniad dewr a rhoi gwybod am hyn.
Cafodd ei garcharu am dair blynedd a chwe mis.
*Y gosb fwyaf am aflonyddu yn y DU yw 14 o flynyddoedd yn y carchar.
Wrth i'r galw gynyddu dros gyfnod y Nadolig, bydd ein swyddogion a staff, fel bob blwyddyn, yn parhau i fod yn weladwy yn ein cymunedau yn y cyfnod cyn a thros y Nadolig er mwyn sicrhau bod cymunedau De Cymru yn ddiogel. Mae ymgyrchoedd ac adnoddau ychwanegol wedi cael eu rhoi ar waith ledled De Cymru gyfan i flaenoriaethu diogelwch pawb yn ein cymunedau.