Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae blacmel rhywiol (sextortion) yn cyfeirio at fath penodol o drosedd a
hwylusir gan ddulliau seibr lle caiff dioddefwyr eu denu i gyflawni
gweithredoedd rhywiol o flaen eu gwe-gamera.
Heb yn wybod i ddioddefwyr, caiff eu gweithredoedd eu recordio gan droseddwyr sydd yna'n defnyddio'r fideo mewn ymgais i'w blacmelio.
Fel arfer mae troseddwyr yn gofyn am arian ac os na chaiff y gofynion eu bodloni, byddant yn bygwth lanlwytho'r recordiad(au) i'r rhyngrwyd a'u hanfon at ffrindiau a theulu'r dioddefwr.
Beth i'w wneud os ydych yn dioddef:
Cysylltwch â ni ar unwaith fel ein bod yn medru helpu:
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Gweler y canllaw hunangymorth hon am fwy o wybodaeth am gasglu wybodaeth i helpu'r ymchwiliad a sut i ddileu lluniau anweddus.
Mae mwy o wybodaeth ar gael gan y National Crime Agency (NCA) ac Action Fraud.