Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae defnyddio beiciau modur oddi ar y ffordd neu feiciau cwad yn ddifyrrwch poblogaidd. Gallwch gael llawer o hwyl os byddant yn cael eu defnyddio'n ffordd gyfrifol, ond dim ond ar dir preifat, gyda chaniatâd y tirfeddiannwr.
Fodd bynnag, nid teganau yw'r rhain, a gellir eu defnyddio mewn ffyrdd peryglus, anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol. Gallant achosi marwolaeth ac anafiadau difrifol, yn ogystal â phroblemau a thrallod i bobl eraill.
Cyn i chi brynu un, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r gofynion diogelwch a'r gofynion cyfreithiol.
Gofynnwch i chi eich hun:
Pa gyfarpar a dillad diogelwch sydd eu hangen arna i?
Ble fyddwch chi'n defnyddio'r beic fydd yn ddiogel, yn gyfreithiol ac yn ystyriol o bobl eraill?
Cofiwch...
Gallwch ond defnyddio cwad neu feic modur oddi ar y ffordd yn gyfreithiol os bydd ar dir preifat a bod gennych ganiatâd y tirfeddiannwr. Nid yw tir sy'n eiddo i'r cyngor lleol yn cael ei ystyried yn dir preifat.
Mae'n anghyfreithlon defnyddio unrhyw gerbyd a yrrir yn fecanyddol mewn mannau agored cyhoeddus fel parciau, ardaloedd chwarae ac ar balmentydd. Os byddwch yn defnyddio ffyrdd, bydd angen trwydded addas, yswiriant, treth a rhif cofrestru arnoch, ac hefyd MOT dilys o bosibl.
Mae ffyrdd yn cynnwys priffyrdd, unrhyw ffordd arall y mae'r cyhoedd yn ei defnyddio, llwybrau cerdded cyhoeddus, llwybrau ceffylau a hyd yn oed llawer o feysydd parcio.
Rydym yn cael cwynion am ddefnydd gwrthgymdeithasol o feiciau cwad a beiciau modur oddi ar y ffordd yn rheolaidd.
Yn anffodus, mae criwiau ambiwlans hefyd yn cael eu galw allan i ddelio â phlant ac oedolion sydd wedi cael anafiadau difrifol o ganlyniad i ddefnyddio'r beiciau hyn yn anghyfreithlon a heb wisgo unrhyw ddillad diogelu neu helmed.
Er mwyn lleihau niwed, cynhelir gweithrediadau'r heddlu ledled y de ac ni fyddwn yn ymddiheuro am atafaelu beiciau cwad a beiciau modur oddi ar y ffordd a ddefnyddir yn anghyfreithlon ac erlyn y rhai sy'n eu defnyddio.
Gall rhieni a gofalwyr sy'n caniatáu i blant ddefnyddio'r cerbydau hyn yn anghyfreithlon hefyd gael dirwy a phwyntiau cosb ar eu trwydded yrru.
Meddyliwch cyn i chi brynu
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y cyfreithiau ynglŷn â chwadiau a beiciau oddi ar y ffordd, ewch i www.askthe.police.uk.