Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oherwydd y pandemig Covid-19 byd-eang bydd Nadolig eleni ychydig yn wahanol. Er hynny nod ymgyrch atal troseddau Nadolig blynyddol Heddlu De Cymru unwaith eto yw helpu cadw chi, eich teulu a'ch eiddo yn ddiogel yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Bydd ein hymgyrch yn rhedeg yn ystod mis Rhagfyr, gyda gwybodaeth a chyngor i'ch helpu chi a'ch teulu.
Byddwn yn cynyddu ymdrechion i helpu i amddiffyn trigolion, atal troseddwyr - ac i godi ymwybyddiaeth o'r camau y gallwch eu cymryd i leihau'r risg o fod yn ddioddefwr trosedd yn ystod yr ŵyl.
Gweler ein cyngor isod a chadwch lygad am ein heddweision ar draws de Cymru a fydd yn ymgysylltu â thrigolion i helpu cadw chi’n ddiogel.
Rydym hefyd wedi datblygu pecyn hwyl i blant y gallwch ei lawrlwytho a'i argraffu. Cliciwch y llun isod!
Does dim byd gwell na gweld eich anrhegion i gyd yn eistedd o dan y goeden Nadolig!
Ond nid chi yw'r unig rai sy'n meddwl hynny; mae lladron yn targedu cartrefi gydag anrhegion a phethau gwerthfawr yn y golwg.
Darganfyddwch sut y gallwch amddiffyn eich cartref a'ch eiddo trwy'r ddolen hon.
Gall y Nadolig fod yn unig ac yn anodd i lawer ac mae 2020 wedi bod yn arbennig o anodd i lawer o bobl oherwydd pandemig Covid-19.
Byddwch yn gymydog da a chadwch lygad ar unrhyw aelodau oedrannus neu fregus o'ch cymuned. Weithiau gall ‘helo’ cyflym neu'r cynnig i godi rhywbeth o'r siop wneud gwahaniaeth mawr.
Cofiwch hefyd am unrhyw gyfyngiadau Coronafirws perthnasol sydd ar waith.
Peidiwch â'i gwneud hi'n hawdd i ladron trwy adael y car with i chi ddadmer y ffenestri. Mae'n cymryd ychydig eiliadau i leidr neidio i mewn a gyrru i ffwrdd. Darganfyddwch fwy am amddiffyn eich cerbyd trwy'r ddolen hon.
Peidiwch â'i gwneud hi'n hawdd i ladron. Os ydych chi allan yn siopa, edrychwch ar ôl eich bagiau, a pheidiwch â gadael anrhegion Nadolig yn y golwg mewn cerbyd sydd wedi'i barcio. Cliciwch ar y ddolen hon i ddarganfod mwy am gadw'ch cerbyd a'ch eiddo yn ddiogel.
Os ydych chi'n ddigon ffodus i gael ymweliad gan Siôn Corn – cofrestwrch unrhyw anrheg gwerthfawr e.e. Beic, consol Gemau, Ffôn symudol, cyfrifiadur, ayb am ddim gyda https://www.immobilise.com/
Gall yr heddlu ddefnyddio'r wefan hon i ddychwelyd eiddo coll neu wedi'i ddwyn i berchnogion.
Peidiwch â gadael y deunydd pacio ar gyfer eich anrhegion Nadolig gwerthfawr yn y golwg, oherwydd gallai hyn hysbysebu i ladron beth sydd yn eich cartref. Cliciwch yma i ddarganfod sut y gallwch chi gadw'ch cartref a'ch pethau gwerthfawr yn ddiogel
Wrth i’r Nadolig agosau mae hi’n medru bod yn amser siopa prysur. Cofiwch gadw'ch waled, pwrs a'ch pethau gwerthfawr yn ddiogel. Peidiwch â rhoi cyfle i ladron ddifetha'ch Nadolig.
Am fwy o gyngor atal troseddau ar lu o bynciau, ewch i'n tudalen atal troseddau
Cymerwch ofal a gobeithio y cewch Nadolig heddychlon a llawn hwyl. Gallwn eich sicrhau y byddwn yn gweithio 24/7 er mwyn helpu i gadw De Cymru'n ddiogel.