Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru yn 2009 fel elusen gofrestredig sy'n cynnig grantiau i sefydliadau a phrosiectau sy'n cynnig llwybr arall i bobl ifanc yn lle cael eu denu i droseddu, ymddwyn yn wrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau.
Ei nod yw bod y bobl ifanc hynny sydd wedi profi’r system cyfiawnder troseddol yn cael y cyfle i adeiladu’r sylfeini i wneud dewisiadau bywyd mwy cadarnhaol, cael perthnasoedd gwell a lles meddyliol a chorfforol gwell.
Sefydlwyd Cronfa Goffa Richard Taylor yn 2006 ar ôl marwolaeth Richard Taylor, sgrialwr o'r Barri. Yn 2004, bu mewn damwain ar ei ffordd i'r parc sgrialu ac, yn anffodus, collodd ei fywyd. Roedd yn 23 oed.
Yn y fideo isod mae mam Richard a'i ewyrth yn sôn am waith y gronfa goffa a'r ffordd y mae arian o Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru wedi'u helpu i gyflawni eu nod.
Crëwyd y fideo hwn gan Rod Shaw, perchennog a sylfaenydd Calon y Cwm, sef darpariaeth i bobl ifanc yng Nghwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n dangos y gwahanol raglenni y maent yn eu darparu i bobl ifanc o bob oedran.
Gwnewch gais ar wefan Comisiynydd yr Heddlu.
Ar waelod y dudalen hon mae llyfryn gyda gwybodaeth ategol i ymgeiswyr.
Mae yna hefyd dabl am grantiau a roddwyd yn y gorffennol.
Sefydliad | Prosiect | Grantiau |
Active Youth (23/01/2024 - 20/01/2025) |
£6,700 |
|
CBC Boardability | Everyone on Board (01/02/2024 - 01/11/2024) | £5,000 |
Heddlu De Cymru | Prosiect Celf Ieuenctid Amlasiantaethol HDC yn Townhill a Mayhill (01/07/2024 - 31/08/2024) | £1,050 |
Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe | Kiks Castell-nedd a Gorseinion (3/4/23 - 31/7/23) | £8,000 |
Gweithgareddau Clwb Bechgyn a Merched Castell-nedd | Clwb Ieuenctid (19/5/23 - 31/12/23) | £3,800 |
Sefydliad Gellideg | Ieuenctid Gellideg, Trefechan a Thwyncarmel (4/12/23 - 31/12/24) | £6,000 |
Menter Chwarae Plant Bonymaen | Gweithgareddau haf Menter Chwarae Plant Bonymaen (9/1/23 - 31/8/24) | £2,500 |
Clwb Pêl-droed Mavericks Abertawe | Tîm pêl-droed dan 12 wedi'i leoli yn Meadow View, Townhill, Abertawe (1/6/23 - 27/4/24) | £2,000 |
YMCA Abertawe | GoodVibes – gweithwyr ieuenctid sesiynol (1/11/23 - 31/10/24) | £4,993.20 |
Clybiau Bechgyn a Merched Cymru | Prosiect Datgysylltiedig Plismona yn y Gymdogaeth a Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru (30/10/23 - 12/2/24) | £3,800 |
Gwnaeth Cwmni Buddiannau Cymunedol Raw Performance, mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru, lansio Rhaglen Ffitrwydd Ieuenctid unigryw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cafodd y rhaglen gyllid o £6,700 ac mae’n ceisio grymuso pobl ifanc drwy fanteisio ar yr agweddau cadarnhaol ar ddull milwrol o gadw’n heini, wrth feithrin amgylchedd cefnogol a diddorol ar yr un pryd.
“Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru ar y rhaglen effeithiol hon,” dywedodd Cyfarwyddwr Cwmni Buddiannau Cymunedol Raw Performance, Steve Tallis.
“Mae ein rhaglen, a ddyluniwyd gan hyfforddwyr sydd â 20+ mlynedd o brofiad o arwain sesiynau ymarfer corff mewn grŵp, yn cynnig ffordd hwyliog a heriol o gadw’n heini sy’n mynd y tu hwnt i ddatblygiad corfforol.”
Nod y Clwb Bechgyn a Merched yw darparu amrywiaeth eang o weithgareddau i’r rhai sydd rhwng 11 ac 16 oed o ardal Melyn yng Nghastell-nedd. Mae’r clwb yn helpu pobl ifanc i wella eu sgiliau cymdeithasol a gwaith tîm ac i fagu hyder
ynddyn nhw eu hunain.
Derbyniodd y clwb ychydig dros £4,000 gan Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru ac mae wedi defnyddio’r cyllid hwn i gynnal gweithgareddau fel dringo, padl-fyrddio, caiacio a mwy. Mae’r plant yn cymryd rhan yn y gweithgareddau gyda’u teuluoedd, gan sicrhau bod pawb yn mwynhau ac yn cael budd o’r clwb.
Gallwch gefnogi gwaith yr Ymddiriedolaeth Ieuenctid a gwneud rhodd mewn nifer o ffyrdd. Gallwch wneud rhodd ar-lein drwy ein tudalen Just Giving.
Gallwch hefyd roi drwy siec, neu archeb bost. Dylid gwneud pob siec neu archeb bost yn daladwy i Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru, a’u postio i:
Cydgysylltydd Ymddiriedolaeth Ieuenctid
Llywodraethu Corfforaethol
Pencadlys Heddlu De Cymru
Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3SU
Os hoffech gynnal digwyddiad codi arian, cysylltwch â ni:
Cydgysylltydd Ymddiriedolaeth Ieuenctid
Llywodraethu Corfforaethol
Pencadlys Heddlu De Cymru
Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3SU
Ffôn: 01656 869366
E-bost: [email protected]
Elusen Gofrestredig Rhif: 1133057
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cael ei rhedeg gan grŵp o ymddiriedolwyr sy’n bobl leol. Maen nhw’n sicrhau y defnyddir yr arian yn y ffordd fwyaf effeithiol ac yn gweithio’n agos â rhoddwyr a’r cymunedau.