Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddlu De Cymru yw’r heddlu mwyaf yng Nghymru ac er ei fod yn cwmpasu ardal ddaearyddol fach ag arwynebedd o tua 812 o filltiroedd sgwâr, sy’n cyfateb i ddim ond 10% o arwynebedd daearyddol Cymru, mae Heddlu De Cymru yn darparu gwasanaeth plismona i 1.3 miliwn o bobl (42% o boblogaeth y wlad).
Mae De Cymru yn rhanbarth amrywiol gydag ardaloedd gwledig, arfordirol a threfol gan gynnwys y ddwy ddinas fwyaf yng Nghymru, sef Abertawe a’r brifddinas, Caerdydd. Mae’r heddlu hefyd yn gwasanaethu 63 o’r 100 o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae gan yr heddlu bron i 3000 o swyddogion yr heddlu a thros 2200 o staff yr heddlu, gan gynnwys Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) a thîm o wirfoddolwyr ymroddgar sy’n cynnwys dros 100 o Gwnstabliaid Gwirfoddol a thua 150 o Wirfoddolwyr Ifanc yr Heddlu. Mae’n debyg bod rolau swyddogion yr heddlu mewn lifrai sy’n ymateb i alwadau a PCSOs sy’n gweithio yn y gymuned yn gyfarwydd i’r rhan fwyaf o bobl. Ond mae plismona yn cynnwys ystod eang o wahanol swyddogaethau, ac mae llawer ohonynt yn anweledig i’r cyhoedd, serch hynny, maent yn rhan annatod o’r ffordd rydym yn plismona.
Y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools sy’n gyfrifol am bennu’r blaenoriaethau plismona ar gyfer Heddlu De Cymru.
Caiff penderfyniadau strategol eu gwneud gan Fwrdd Strategol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru.
Rydym yn adrodd yn ôl yn rheolaidd gan ddefnyddio arolygon fel rhan o waith ymgynghori cyhoeddus. Mae Compass yn holiadur drwy’r post a ddosberthir i gartrefi ar hap ar draws ardal yr heddlu. Daw’r enw Compass o’r geiriau Saesneg Community Perception and Satisfaction Survey. Ei nod yw casglu gwybodaeth am ganfyddiad a phrofiad y cyhoedd o drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, barn ar yr heddlu lleol, ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad.
Rydym am blismona ein cymunedau yn effeithiol. I wneud hyn, mae angen i ni ddeall pryderon, canfyddiadau a phrofiadau ein cymunedau, gan y gwyddom fod canfyddiad a phrofiad yn dylanwadu ar hyder y cyhoedd, sydd yn ei dro yn effeithio ar barodrwydd pobl i roi gwybod i Heddlu De Cymru am droseddau ac ymgysylltu â Heddlu De Cymru.
Nid yn unig y mae Compass yn mesur y pethau hyn, mae hefyd yn ein galluogi i ystyried y cydberthnasau rhyngddynt a theilwra’r gwasanaeth a ddarparwn.