Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Asesiad dynol o rybudd a gynhyrchir gan y rhaglen Adnabod Wynebau Byw (LFR) gan Swyddog Ymgysylltu LFR (gyda chymorth y Gweithredwr LFR, fel y bo angen) er mwyn penderfynu a oes angen ymgysylltu ymhellach â'r unigolyn sy'n cyfateb i lun ar restr wylio. Wrth ymgymryd â'r broses Ddyfarnu, rhoddir ystyriaeth i ffactorau amgylcheddol, y system a'r testun.
Unigolyn sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig y mae ganddo hawliau i ddefnyddio'r rhaglen LFR er mwyn cynnal ei gallu gweithredol a chael y budd gorau posibl ohoni.
Bydd y rhaglen Adnabod Wynebau Byw yn cynhyrchu rhybudd pan fydd llun o wyneb o’r ffrwd fideo yn cael ei gymharu â’r rhestr wylio ac yn dangos sgôr cymharu (tebygrwydd) uwchlaw'r trothwy.
Bydd rhybudd gwirioneddol yn cael ei bennu pan fydd llun chwilota yr un peth â llun yr unigolyn yn y rhestr wylio.
Yn dilyn yr ymgysylltu, bydd rhybudd gwirioneddol wedi’i gadarnhau yn cael ei bennu pan fydd yr unigolyn dan sylw yr un peth â’r person yn llun yr unigolyn yn y rhestr wylio.
Cyfanswm nifer y troeon y gwyddys bod unigolyn/unigolion ar restr wylio wedi mynd drwy'r Parth Adnabod a chynhyrchu rhybudd yn gywir, fel cyfran o gyfanswm nifer y troeon y mae'r unigolion hynny wedi mynd drwy'r Parth Adnabod. Mae p’un a fydd y rhaglen LFR yn cynhyrchu rhybudd ai peidio yn amherthnasol.
Cyfeirir at hyn hefyd fel y Gyfradd Nodi Cadarnhaol Gwirioneddol.
Bydd y gweithredwr yn pennu rhybudd anwir pan fydd y llun chwilota yr un peth â llun yr unigolyn yn y rhestr wylio, yn seiliedig ar ddyfarniad heb unrhyw ymgysylltu.
Mae'r gyfradd rhybuddion anwir yn un o ddau fesur sy'n berthnasol i bennu cywirdeb y rhaglen.
Yn dilyn yr ymgysylltu, bydd rhybudd anwir wedi’i gadarnhau yn cael ei bennu pan na fydd yr unigolyn dan sylw yr un peth â’r person yn llun yr unigolyn yn y rhestr wylio.
Dyma nifer yr unigolion nad ydynt ar y rhestr wylio sy'n cynhyrchu rhybudd anwir neu rybudd anwir wedi'i gadarnhau fel cyfran o gyfanswm nifer y bobl sy'n mynd drwy'r Parth Adnabod.
Cyfeirir at hyn hefyd fel Cyfradd Nodi Cadarnhaol Anwir.
Nid oes yr un ffigur a all bennu cywirdeb y rhaglen LFR. Pennir cywirdeb drwy fesur dau fetrig: Y gyfradd adnabod gwirioneddol a’r gyfradd rhybuddion anwir. Caiff hyn ei esbonio ymhellach fel a ganlyn:
|
|
Cyfradd Adnabod Gwirioneddol |
Cyfradd Rhybuddion Anwir |
|
|
Beth ydyw? |
|
Cyfanswm nifer y troeon y gwyddys bod unigolyn/unigolion ar restr wylio wedi mynd drwy'r Parth Adnabod a chynhyrchu rhybudd yn gywir, fel cyfran o gyfanswm nifer y troeon y mae'r unigolion hynny wedi mynd drwy'r Parth Adnabod. Mae p’un a fydd y rhaglen LFR yn cynhyrchu rhybudd ai peidio yn amherthnasol. |
Nifer yr unigolion nad ydynt ar y rhestr wylio sy'n cynhyrchu Rhybudd Anwir neu Rybudd Anwir wedi'i Gadarnhau fel cyfran o gyfanswm nifer y bobl sy'n mynd drwy'r Parth Adnabod. |
||
Enghraifft Benodol |
|
Byddai'r Gyfradd Adnabod Gwirioneddol yn 90% pe bai 10 person ar y rhestr wylio yn pasio'r system LFR, a phe bai Rhybudd yn cael ei gynhyrchu'n gywir ar gyfer 9 allan o 10 o'r bobl hynny (heb gynhyrchu Rhybudd ar gyfer y 10fed person). |
Byddai'r Gyfradd Rhybuddion Anwir yn 0.1%, pe bai rhybudd yn cael ei gynhyrchu yn erbyn un person nad oedd ar y rhestr wylio ar gyfer pob 1,000 o bobl sy'n pasio'r system LFR. |
||
Swyddog awdurdodi (sydd fel arfer yn Uwch-arolygydd neu ar reng uwch) sy'n rhoi’r awdurdod i ddefnyddio LFR.
Cynrychiolaeth ddigidol o nodweddion yr wyneb a dynnwyd o'r llun o'r wyneb.
Y templedi hyn (yn hytrach na'r lluniau eu hunain) a ddefnyddir at ddibenion chwilio ac sy'n darparu data personol biometrig. Noder bod y templedi yn perthyn yn benodol i bob algorithm adnabod wynebau a bydd angen cynhyrchu templedi newydd o'r delweddau gwreiddiol os caiff algorithm y rhaglen LFR ei newid.
Mae rhestr wylio yn cynnwys unigolion hysbys y gellir eu defnyddio i brofi perfformiad y system, er enghraifft gellir rhoi swyddogion/staff yr heddlu ar restr wylio las a'u 'plannu' fel rhan o'r dorf sy'n cerdded drwy'r Parth Adnabod wrth ddefnyddio'r rhaglen, er mwyn mesur y Gyfradd Adnabod Gwirioneddol.
Delwedd o berson o'r Rhestr Wylio a ddychwelir o ganlyniad i Rybudd.
Defnyddio rhaglen LFR fel yr awdurdodir gan swyddog awdurdodi i nodi'r rheini ar restr wylio LFR.
Mae'n nodi manylion defnydd arfaethedig, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) lleoliad, dyddiadau/amseroedd, rhesymau dros ddefnyddio'r rhaglen a'r rhestr wylio, sail gyfreithiol, angenrheidrwydd, cymesuredd, camau diogelu, cyfansoddiad y rhestr wylio, y swyddog awdurdodi a'r adnoddau. Bydd hefyd yn cynnwys ystadegau perthnasol, canlyniadau a chrynodeb o unrhyw faterion.
Swyddog sy'n cyfathrebu ag aelod o'r cyhoedd o ganlyniad i rybudd.
Elfen allanol sy'n effeithio ar berfformiad rhaglen LFR fel goleuo gwan, golau llachar, glaw, niwl ac ati.
Gosodiad y mae modd ei ffurfweddu sy'n pennu nifer yr wynebau y gall y rhaglen LFR eu dadansoddi ym mhob ffrâm fideo.
Mae FRT yn gweithio drwy ddadansoddi nodweddion allweddol yr wyneb, cynhyrchu cynrychiolaeth fathemategol o’r nodweddion hyn, ac yna eu cymharu â chynrychiolaeth fathemategol o wynebau hysbys mewn cronfa ddata sy'n cynhyrchu cyfatebiadau posibl. Mae hyn yn seiliedig ar luniau digidol (llonydd neu o ffrydiau camera byw).
Ystyr negyddol anwir yw pan fydd person ar y rhestr wylio yn mynd drwy'r Parth Adnabod heb gynhyrchu rhybudd. Mae nifer o resymau dros achosion negyddol anwir; mae'r rhain yn cynnwys ffactorau amgylcheddol, y testun a'r rhaglen, yn ogystal â pha mor uchel y mae'r trothwy wedi'i osod.
Defnydd amser real o dechnoleg adnabod wynebau yw LFR, sy'n cymharu ffrwd/ffrydiau camera byw o wynebau â rhestr wylio a bennwyd ymlaen llaw, er mwyn dod o hyd i bersonau o ddiddordeb drwy gynhyrchu rhybudd pan fydd cyfatebiad posibl yn cael ei nodi.
Prif rôl swyddog ymgysylltu LFR yw cynnal y broses ddyfarnu yn dilyn rhybudd, a all arwain at waith ymgysylltu gan y swyddog. Bydd y swyddogion hyn hefyd yn helpu'r cyhoedd drwy ateb cwestiynau a'u helpu i ddeall diben a natur defnyddio'r rhaglen LFR.
Swyddog neu aelod o staff sy'n defnyddio'r rhaglen LFR yw Gweithredwr LFR. Bydd yn ystyried rhybuddion a, drwy'r broses ddyfarnu, yn helpu'r swyddogion ymgysylltu LFR i benderfynu a ddylid gweithredu ar rybudd.
Mae'r term hwn yn cynnwys personau ar restr wylio
Delwedd o wyneb a ddefnyddir i gynnal chwiliad yn erbyn Rhestr Wylio.
Mae RFR yn cyfeirio at ddefnyddio technoleg adnabod wynebau ar ôl digwyddiad, sy'n cymharu lluniau llonydd o wynebau testunau anhysbys â chronfa ddata delweddau cyfeirio er mwyn eu hadnabod.
Ffactor sy'n gysylltiedig â'r unigolyn, er enghraifft ffactorau demograffig neu nodweddion neu ymddygiadau corfforol, er enghraifft os yw'r unigolyn yn gwisgo gorchudd pen, yn ysmygu, yn bwyta, neu'n edrych i lawr wrth fynd heibio i'r camera.
Ffactor sy'n ymwneud â'r rhaglen LFR fel yr algorithm.
Y pwynt cyflunio lle y bydd dwy ddelwedd sy'n cael eu cymharu yn arwain at Rybudd. Mae angen gosod y trothwy yn ofalus er mwyn cynyddu'r tebygolrwydd y caiff rhybuddion gwirioneddol eu cynhyrchu, gan gadw'r gyfradd rhybuddion anwir ar lefel dderbyniol.
Yng nghyd-destun awdurdodi'r defnydd o raglen LFR, defnydd sy'n ymwneud â'r canlynol:
Sefyllfa lle mae bygythiad uniongyrchol i fywyd neu niwed difrifol; a/neu gyfleoedd ymchwiliol/cudd-wybodaeth gydag amser cyfyngedig i weithredu, lle mae'r difrifoldeb a'r buddiannau posibl yn ategu natur frys y weithred.
Set o luniau cyfeirio hysbys yw rhestr wylio, y caiff llun chwilota ei gymharu â hi. Fel arfer, mae'r rhestr wylio yn is-set o gasgliad llawer mwy o luniau (o'r gronfa ddata o luniau cyfeirio), a bydd wedi'i chreu'n benodol er mwyn defnyddio'r rhaglen LFR.
Gwagle tri-dimensiwn o fewn maes gwelediad y camera a lle y bodlonir yr amodau delweddu ar gyfer adnabod wynebau yn gadarn. Yn gyffredinol, mae'r parth adnabod yn llai na maes gwelediad y camera e.e. efallai na fydd pob wyneb yn y maes gwelediad yn glir, ac na fydd pob wyneb yn y maes gwelediad yn cael ei ddelweddu â'r eglurder angenrheidiol ar gyfer adnabod wynebau.