Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Wendy ei phenodi'n Brif Gwnstabl Cynorthwyol ym mis Ionawr 2023, yn gyfrifol am Cydweithredu Cymru Gyfan, Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru a'r Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol, TARIAN.
Dechreuodd Wendy ei gyrfa gyda Heddlu Thames Valley yn 1997, lle y bu'n gweithio ym Milton Keynes. Yn 2001, trosglwyddodd Wendy i Heddlu De Cymru a threulio sawl blwyddyn mewn rolau gwahanol yng Nghaerdydd. Yn ystod ei blynyddoedd cynnar ym maes plismona, manteisiodd Wendy ar y cyfle i ddod yn wyliwr o'r awyr ar hofrennydd yr heddlu - un o uchafbwyntiau ei gyrfa.
Gwnaeth Wendy gymhwyso i fod yn Rhingyll ac yn Arolygydd a chael ei dyrchafu i'r rhengoedd hynny tra roedd yn magu tri o blant ac mae sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith â bywyd teuluol yn bwysig iawn iddi.
Yn 2011, ymunodd Wendy â thîm arwain a oedd yn gyfrifol am gyfuno saith canolfan gyswllt yn un. Ar y pryd, roedd yn un o'r rhaglenni newid mwyaf a gwblhawyd gan Heddlu De Cymru.
Mae Wendy wedi treulio sawl blwyddyn ym meysydd cudd-wybodaeth, ymchwiliadau, plismona cudd a throseddau cyfundrefnol difrifol, ar lefel yr heddlu a lefel ranbarthol. Ym mis Tachwedd 2015, cafodd Wendy ei dyrchafu'n Dditectif Brif Arolygydd yn TARIAN, sef y rhwydwaith Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol, ac ar ôl cael ei dyrchafu'n Dditectif Uwch-arolygydd ym mis Medi 2017, arhosodd Wendy ym maes plismona cudd ac ymchwiliadau. Cymhwysodd fel Swyddog Awdurdodi ac Uwch-swyddog Ymchwilio ar gyfer herwgipio a chribddeiliaeth.
Symudodd Wendy i rôl rheoli gweithredol yng Nghaerdydd ym mis Chwefror 2019 gan gymryd yr awenau fel arweinydd yr heddlu ar gyfer troseddau cyllyll a thrais difrifol, gan ddarparu ymateb ledled ardal yr heddlu. Mae Wendy yn Gomander Arfau Tanio Strategol achrededig a phrofiadol, yn ogystal â bod yn Gomander Trefn Gyhoeddus Aur.
Ym mis Chwefror 2020, cafodd ei phenodi'n Brif Uwch-arolygydd ac yn Gomander ar Uned Reoli Sylfaenol Caerdydd a'r Fro, a oedd yn rôl heriol. Fel un o drigolion Caerdydd, roedd ganddi gysylltiad personol â'r ardal sy'n cynnwys prifddinas Cymru a brwdfrydedd dros ei harwain. Arweiniodd y tîm trwy bandemig byd-eang COVID-19 a llawer o newidiadau sefydliadol mawr.
Mae Wendy yn uwch-arweinydd ym maes plismona, yn wraig ac yn fam i dri o blant. Mae'n hoffi teithio gyda'i theulu, yn arbennig ar wyliau sgïo. Mae'n cadw'n heini ac yn mwynhau llawer o weithgareddau awyr agored, yn enwedig mynd am dro â'i dau gi, Bodhi ac Otis.