Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Umar wedi bod yn Brif Swyddog Ariannol ar gyfer Heddlu De Cymru ers mis Awst 2007. Mae ganddo brofiad ariannol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, sy'n cynnwys 10 mlynedd o brofiad fel Pennaeth Cyllid Heddlu Gwent a thair blynedd fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gweinyddu Heddlu Swydd Lincoln.
Mae gan Umar radd BA Anrhydedd mewn Cyfrifeg a Chyllid, a hyfforddodd fel cyfrifydd yn Llundain. Mae hefyd yn gyd-aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig.
Mae’n darparu arweiniad strategol, rheolaeth a chyngor ar bob mater ariannol yn yr heddlu, ac mae'n gyfrifol am Gyllid Corfforaethol, Ystadau, Cyfleusterau, Fflyd, Gwasanaethau Masnachol, Gwybodaeth a Thechnoleg yn ogystal â Gwasanaethau Digidol Trawsnewidiol, ac ef yw'r uwch-swyddog cyfrifol ar gyfer Diogelwch Gwybodaeth.
Roedd Umar yn gadeirydd Ystadau Cymru (Ystadau Sector Cyhoeddus Cymru), mae wedi bod yn llywodraethwr ac yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio Prifysgol Metropolitan Caerdydd, mae'n aelod o bwyllgor cyllid Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ac yn gadeirydd Bwrdd Caffael Cymru Gyfan.
Mae'n cyfrannu'n helaeth at y rhaglen Heddluoedd yn Cydweithio, yn gweithredu fel arweinydd rhanbarthol yr heddlu ar gyfer Cyllid, Ystadau a Chaffael yng Nghymru ac mae wedi arwain y broses gydweithio rhwng yr Heddlu, y Gwasanaethau Tân a'r Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru er mwyn Galluogi Gwasanaethau.
Yn 2003, cwblhaodd Umar Gwrs Uwch-reoli'r Heddlu ac yn 2015, cafodd ei gydnabod yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, gan dderbyn MBE. Yn 2017, cwblhaodd Umar yr Academi Arweinyddiaeth Prosiectau Mawr gydag Ysgol Fusnes Saïd ym Mhrifysgol Rhydychen, a chafodd Gymrodoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2023.
Mae Umar yn aelod o fwrdd arweinyddiaeth Busnes yn y Gymuned y Brenin ac mae'n frwd dros gynaliadwyedd a chaffael moesegol lle mae cydweithio yn cynnig y cyfle gorau i wneud newid sylweddol.
Cafodd Umar ei gydnabod yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin yn 2025, gan dderbyn OBE am ei gyfraniad sylweddol i wasanaeth cyhoeddus.
Mae’n briod gyda dau o blant hŷn.