Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Jenny Gilmer â Heddlu De Cymru ym mis Mehefin 2018 fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol, yn gyfrifol am Wasanaethau Cymorth Gweithredol, ar ôl gwasanaethu gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig am 19 blynedd mewn sawl rôl yn yr Alban a Llundain.
Mae’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gilmer yn Gomander Trefn Gyhoeddus Aur ac yn Gomander Arfau Tanio Strategol.
Ym mis Tachwedd 2019, daeth yn gyfrifol am bortffolio Plismona Tiriogaethol Heddlu De Cymru, gan arwain y timau sy’n darparu gwasanaethau ymateb, cymdogaeth ac ymchwiliol i gymunedau Caerdydd a’r Fro, Morgannwg Ganol ac Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.
Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gilmer yw arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer CCTV.
Mae’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gilmer yn frwd dros ddatblygu staff ac mae wedi hyfforddi i fod yn hyfforddwr ac yn fentor.