Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Mark Travis ei benodi’n Brif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru ym mis Mehefin 2020.
Ymunodd Mark â Heddlu Swydd Gaer yn 1998, ar ôl gweithio’n rhyngwladol yn y sector preifat cyn hynny. Roedd Mark yn gweithio’n bennaf ym meysydd plismona rhagweithiol a phlismona trefn gyhoeddus, ac ef a sefydlodd dîm Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig (ANPR) cyntaf Heddlu Swydd Gaer.
Yn 2004, symudodd i Heddlu Gorllewin Mersia, gan weithio mewn rolau cymorth gweithredol, yn cynnwys yr adran gŵn, plismona ffyrdd, trefn gyhoeddus ac unedau chwilio arbenigol. Cododd Mark drwy’r rhengoedd o Ringyll i Brif Gwnstabl Cynorthwyol Dros dro yn ystod ei amser gyda Heddlu Gorllewin Mersia.
Yn ystod ei amser yn y swydd, bu’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o foderneiddio galluoedd TG yr heddlu, a chyflawni nifer o raglenni newid a wellodd arferion gweithio digidol a gweithio hyblyg yr heddlu, yn ogystal â gallu’r heddlu mewn perthynas â gwaith partneriaeth amlasiantaeth.
Mae wedi gwasanaethu fel Pennaeth Cudd-wybodaeth, ac wedi cyflawni rolau Comander Trefn Gyhoeddus a Chomander Arfau Tanio, yn ogystal â bod yn gyfrifol am blismona lleol yng Nghaerwrangon yn ystod llifogydd 2012.
Aeth Mark ati i wella amrywiaeth yr heddlu drwy fentora a chefnogi unigolion a oedd yn awyddus i gael eu dyrchafu drwy lwybr gyrfa newydd.
Es hynny, mae Mark wedi arwain rhaglen newid mewn perthynas â dod â’r gynghrair strategol rhwng Heddlu Gorllewin Mersia a Heddlu Swydd Warwick i ben. Yn dilyn hynny, cafodd ei ddyrchafu’n Brif Gwnstabl Cynorthwyol Dros dro ym mis Hydref 2019, lle bu’n gyfrifol am gyfarwyddo portffolio Gwasanaethau Ataliol yr heddlu.
Ymunodd Mark â Heddlu De Cymru yn 2020 fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol ar gyfer y portffolio Cymorth Gweithredol.
Roedd Mark wedi treulio cryn dipyn o amser hamdden yn Ne Cymru cyn iddo gael ei benodi, ac mae’n treulio ei amser rhydd yn cerdded yng nghefn gwlad gyda’i deulu.