Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Mark â Heddlu De Cymru ym mis Medi 2018 fel Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol, ar ôl iddo fwynhau gyrfa yn y sector preifat am gyfnod o 18 mlynedd. Mae gan Mark dros 13 blynedd o brofiad fel uwch arweinydd yn y diwydiant dur yn gweithio, ble y bu’n gweithio i o sefydliadau mawr, cymhleth ac aml-safle.
Mae Mark yn cynnig profiad trylwyr ac eang ar draws yr agenda Adnoddau Dynol ar lefel strategol ac ymarferol. Ar ôl iddo weithio fel Partner Busnes Adnoddau Dynol am dros 6 blynedd, bu Mark hefyd yn gweithio mewn swyddi arweiniol ledled y DU ym meysydd cysylltiadau diwydiannol, datblygu polisi, gwobrwyo a datblygu sefydliadol. Cyn i Mark ymuno â’r heddlu, ei swydd fwyaf diweddar oedd Pennaeth Galluogrwydd, Talent a Hyfforddi yn Tata Steel UK.
Yn ei rôl yn Heddlu De Cymru, mae Mark yn rhoi arweiniad a chyfarwyddyd strategol ar gyfer datblygu’r gweithlu, ac mae’n gyfrifol am swyddogaethau gwasanaethau pobl gan gynnwys diogelwch, iechyd galwedigaethol, adnoddau dynol, ymgysylltu â chyflogeion, a datblygu sefydliadol a dysgu.
Yn ogystal â hyn, Mark yw’r arweinydd ar gyfer adnoddau dynol a chydweithredu ym maes dysgu a datblygu. Ef hefyd yw arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) ar gyfer dysgu a datblygu.
Mae Mark yn Gymrawd Siartredig y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) ac yn aelod o’r Gymdeithas Cyfraith Ddiwydiannol. Yn 1998, enillodd Mark radd Meistr mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol St Andrews, a gradd Meistr (Msc) mewn Rheoli Adnoddau Dynol, ac yn fwy diweddar, radd Meistr (LLM) mewn Cyfraith ac Arferion Cyflogaeth.
Cafodd Mark ei eni yng Nghastell-nedd a’i fagu yng Nghwm Tawe. Bellach, mae’n byw yn ardal De Cymru gyda’i wraig a’i ddau blentyn bach. Er ei fod yn arfer mwynhau chwarae llawer o chwaraeon, heddiw mae Mark yn treulio ei amser hamdden yn hyfforddi tîm pêl-droed iau lleol ac yn cefnogi timau rygbi a phêl-droed lleol.