Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Joanna â Heddlu De Cymru ym 1995 a threuliodd 14 mlynedd gyntaf ei gwasanaeth yn ennill profiad gweithredol hanfodol mewn gwisg Heddlu, yn ogystal â rolau ditectif yn yr Adran Ymchwiliadau Troseddol, y Sgwad Troseddau Cenedlaethol, a’r Uned Gwrthderfysgaeth.
Yn y blynyddoedd olynnol cafodd Joanna ddyrchafiad mewn amrywiaeth o rolau gweithredol ac yn 2016 fe’i dyrchafwyd yn Uwcharolygydd yn yr adran Gwasanaethau Cyfiawnder. Wedi hynny fe’i penodwyd yn Uwcharolygydd gweithrediadau yng Nghaerdydd, lle y bu'n gyfrifol am bob agwedd ar blismona gweithredol ym mhrifddinas Cymru, ac yn arweinydd ymateb sefydliadol yn mynd i’r afael â throseddau cyllyll.
Dyrchafwyd Joanna yn Brif Uwcharolygydd yn 2019 a bu'n gweithio yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot fel y Comander plismona lleol.
Ar hyn o bryd mae Joanna yn gomander Strategol / Aur achrededig mewn drylliau, CBRNE (Cemegol Biolegol Radiolegol Ffrwydrol Niwclear) a disgyblaethau rheoli digwyddiadau aml-asiantaeth, ac mae ganddi radd Meistr mewn Arwain a Rheoli Heddlu o Brifysgol Warwick.
Yn ei rôl fel Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol, mae Joanna wedi arwain a rheoli newid sefydliadol, a bu hefyd yn gyfrifol ac yn arwain swyddogaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y sefydliad.
Ar ôl gweithio fel Prif Swyddog dros dro yn ystod y blynyddoedd diwethaf, llwyddodd Joanna i fynychu a chwblhau’r Cwrs Rheoli Strategol yn 2022 a chafodd ei dyrchafu’n barhaol yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol gyda chyfrifoldeb am blismona lleol ym mis Ionawr 2023.
Mae Joanna'n briod, ac ar ôl iddi gynrychioli Cymru mewn athletau yn ei hieuenctid, mae’n parhau i ymddiddori mewn cadw’n heini, rhedeg, chwarae hoci a sgïo.