Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Jason Davies â'r Heddlu ym mis Ionawr 2001, gan wasanaethu cymunedau Castell-nedd Port Talbot. Yn 2003, symudodd i'r Adran Ymchwilio i Droseddau lle gwasanaethodd fel Ditectif Ringyll a Ditectif Arolygydd, gan gwblhau'r Rhaglen Datblygu Uwch-swyddogion Ymchwilio.
Yn 2009, trosglwyddodd i Abertawe lle gweithiodd fel Pennaeth Cudd-wybodaeth a Throseddau Cyfundrefnol, gan arbenigo mewn plismona cudd fel Uwch-swyddog Ymchwilio. Yn 2014, cafodd ei benodi'n Brif Arolygydd (Gweithrediadau) yng nghanol dinas Abertawe, a dywedodd mai un o'i gyflawniadau balchaf oedd arwain y cais am achrediad baner borffor cyntaf y ddinas ar gyfer diogelwch yn yr economi liw nos. Ef hefyd oedd yr arweinydd gweithredol ar gyfer rhoi Man Cymorth Abertawe ar waith, ar y cyd â thîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru.
Aeth Jason yn ei flaen i wasanaethu fel Pennaeth yr Adran Ymchwilio i Droseddau (CID) a Diogelu'r Cyhoedd ym Mhontypridd a Merthyr Tudful, cyn cael ei ddyrchafu'n Uwch-arolygydd ac arwain portffolio Gwasanaethau Cyfiawnder yr heddlu. Yn fwy diweddar, bu'n Bennaeth Diogelu'r Cyhoedd yr heddlu cyn iddo gael ei ddyrchafu'n Dditectif Brif Uwch-arolygydd (Pennaeth Troseddau) ym mis Tachwedd 2019. Mae'n disgrifio'r swydd fel y fraint bennaf fel ditectif.
Yn ystod ei wasanaeth, mae Jason wedi rheoli sawl ymchwiliad difrifol a chymhleth, ac mae wedi dal cyfrifoldebau strategol mewn sawl swyddogaeth plismona leol a chenedlaethol. Mae'r rhain wedi cynnwys atal troseddau, Dinasyddion ym maes Plismona, trais a cham-drin domestig, troseddau meddiangar difrifol a niwed cysylltiedig â chyffuriau. Mae'n Gomander Arfau Tanio Strategol achrededig, ac yn Gomander Aur Amlasiantaethol (Cymru).
Mae Jason yn angerddol am blismona cymunedau De Cymru, sef yr ardal y daw'n wreiddiol ohoni a lle mae'n dal i fyw gyda'i deulu heddiw. Yn ystod ei amser hamdden, mae'n mwynhau pysgota'r dyfnforoedd a gwylio rygbi (ond nid yw'n chwarae mwyach).