Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dechreuodd Rachel ei gyrfa blismona gyda Heddlu Sussex yn 1995, gan weithio ym maes plismona lleol ac ymchwilio i droseddau lleol. Symudodd o'i swydd fel comander plismona lleol yng Ngorllewin Sussex i weithio fel Uwch-swyddog Ymchwilio ledled ardal Sussex a Surrey, ac yn ddiweddarach fel Pennaeth Troseddau a Diogelu Sussex a Surrey, ac arweinydd yr unedau Troseddau Arbenigol cydweithredol.
Yn 2017, symudodd Rachel i Heddlu Northumbria fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol, yn gyfrifol am Newid, y Ddalfa, Cyfiawnder Troseddol, a Chyfathrebu. Yn sgil newid meysydd portffolio, daeth Rachel yn gyfrifol am Drosedd, Diogelu a'r Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol wedyn. Fel Comander Arfau Tanio Strategol a Threfn Gyhoeddus achrededig, mae Rachel wedi arwain llawer o ymgyrchoedd cymhleth a difrifol ar ran Heddlu Northumbria.
Yn 2021, cafodd Rachel ei phenodi'n Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru. Mae Rachel wedi llwyddo i sicrhau bod yr heddlu yn rhoi mwy o ffocws parhaus ar erlid troseddwyr, diogelu unigolion agored i niwed a darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i ddioddefwyr.
Mae Rachel wedi datblygu dulliau plismona yn y gymdogaeth er mwyn sicrhau bod atal troseddu wrth wraidd y gwasanaeth a ddarperir i gymunedau De Cymru a bod Heddlu De Cymru yn chwarae rhan flaenllaw wrth leihau troseddu ar lefel genedlaethol.
Mae wedi sicrhau bod Heddlu De Cymru yn mynd ati'n effeithiol i wella safonau ymddygiad yr heddlu a'i fod yn dangos esiampl i heddluoedd eraill ledled y wlad o ran dilysu a threchu llygredd.
Yn ogystal â'i chyfrifoldebau o fewn Heddlu De Cymru, Rachel yw arweinydd Iechyd Meddwl Heddlu'r DU ac mae'n gweithio ar lefel genedlaethol i wella gwasanaethau plismona a safonau rhyngweithio'r heddlu yn y maes hwn. Cyflwynodd Rachel brosiect cenedlaethol i roi menter 'Y Gofal Cywir, Y Bobl Gywir' ar waith er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth cywir yn ymateb i alwadau sy'n gysylltiedig ag argyfwng iechyd meddwl. Rachel hefyd sy'n gyfrifol am arwain y prosiect hwn.
Mae Rachel yn aelod o'r Pwyllgor Cenedlaethol ar Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant fel arweinydd Heddlu'r DU ar gyfer oedran. Hi sy'n arwain y Cynllun Mentora Prif Swyddogion i Fenywod ledled y DU ac mae wedi arwain prosiect ymchwil wedi'i anelu at greu byrddau gweithredol mwy amrywiol ym mhob maes plismona yn y DU.
Mae Rachel wrth ei bodd yn yr awyr agored ac mae'n briod ag aelod o Dîm Achub Mynydd. Mae'n mwynhau treulio ei hamser rhydd yn y bryniau neu ar y dŵr.