Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Andy Valentine yw Prif Gwnstabl Cynorthwyol Cymru Gyfan gyda chyfrifoldeb am Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru, Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De Cymru TARIAN a rhaglen Cydweithrediad Heddlu Cymru.
Wedi ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, ymunodd Andy â Heddlu De Cymru fel Cwnstabl Gwirfoddol yn 2000, a daeth yn swyddog rheolaidd yn 2003 ar ôl graddio o'r brifysgol. Mae wedi gwasanaethu mewn ystod eang o rolau ymchwiliol, ymgyrchoedd arbenigol ac iwnifform ym mhob rhan o'r heddlu.
Mae Andy hefyd wedi ymgymryd â rolau uwch-arweinydd wrth gydweithio'n rhanbarthol gan gynnwys gyda Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru a'r Is-adran Gwasanaethau Digidol ar y Cyd – cydweithrediad technoleg arloesol rhwng Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.
Mae ACC Valentine yn Gomander Diogelwch Cyhoeddus Aur, Comander Arfau Tanio Strategol Arbenigol a Chomander Amlasiantaeth Strategol (Aur Cymru) and mae'n gwasanaethu fel aelod o gadres yr heddlu ac yn genedlaethol.
Mae ganddo brofiad o arwain digwyddiadau cymhleth, gan gynnwys yr ymateb i argyfyngau sifil posibl yn sgil pandemig y Coronafeirws a'r llifogydd difrifol yn Sgiwen, Castell-nedd yn 2021. Gyda chydweithiwr, bu Andy hefyd yn gyfrifol am arwain y drefn reoli o ran arfau tanio arbenigol ar gyfer Cynhadledd G7 2021 ym Mae Carbis wrth gefnogi Heddlu Dyfnaint a Chernyw.
Mae gan Andy radd dosbarth cyntaf mewn hanes o Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain a Thystysgrif Raddedig mewn Addysg Cyfiawnder Troseddol o Brifysgol Virginia ar ôl iddo fynychu Academi Genedlaethol yr FBI yn 2010.
Mae ACC Valentine yn falch o wasanaethu cymunedau ledled Cymru yn y wlad mae'n parhau i alw'n gartref.