Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'n rhaid i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei gweinyddu, yn unol â'r gyfraith. Gall y Comisiynydd a Heddlu De Cymru rannu gwybodaeth â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus, er mwyn atal a chanfod twyll.
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn archwilio cyfrifon y Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl. Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data, sy'n ymwneud â chymharu cofnodion cyfrifiadurol un corff â chofnodion cyfrifiadurol eraill yr un corff neu gorff arall er mwyn gweld i ba raddau y maent yn debyg. Gwybodaeth bersonol yw hon fel arfer ond gall hefyd fod yn wybodaeth amhersonol megis manylion am daliadau i gyflenwyr. Bydd data personol ond yn cael eu cadw tra bod eu hangen arnom i ddarparu gwasanaethau neu gyflawni ein rhwymedigaethau, ac i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol ar gyfer cadw mathau penodol o ddata.
Mae paru data cyfrifiadurol yn golygu y gellir nodi hawliadau a thaliadau a allai fod yn dwyllodrus. Pan nodir data tebyg, gall olygu bod anghysondeb y mae angen ymchwilio iddo ymhellach. Ni ellir pennu a oes twyll, camgymeriad nac esboniad arall tan fod ymchwiliad wedi digwydd.
Ar hyn o bryd, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn i'r Comisiynydd a Heddlu De Cymru fod yn rhan o ymarfer paru data er mwyn helpu i atal a chanfod twyll. Mae'n rhaid i'r Comisiynydd a Heddlu De Cymru roi setiau o ddata yn ymwneud â'r gyflogres, pensiynau a chredydwyr masnach i'r Archwilydd Cyffredinol; mae manylion y rhain yng nghanllawiau'r Comisiwn Archwilio: Menter Twyll Genedlaethol 2024-25: Rhaglen Waith a Manylebau Data (audit.wales)
Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol awdurdod statudol i ddefnyddio data mewn ymarfer paru data o dan ei bwerau yn Rhan 3 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Nid yw'n gofyn am ganiatâd gan yr unigolion dan sylw o dan Ddeddf Diogelu Data 2018, sy'n cynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae paru data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn destun Cod Ymarfer. Gellir dod o hyd i hwn yn: Cod Ymarfer Paru Data (audit.wales)
I gael rhagor o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a'r rhesymau pam ei fod yn paru gwybodaeth benodol, ewch i Menter Twyll Genedlaethol | Audit Wales
Os hoffech gael cyngor annibynnol ar yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu faterion eraill yn ymwneud â gwybodaeth bersonol, gan gynnwys cwynion, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (rhanbarthol):
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Ail Lawr
Churchill House
Churchill Way
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 016 2554 5297
E-bost: [email protected]
I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Comisiynydd yn y Fenter Twyll Genedlaethol cysylltwch â [email protected]