Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymysg y meysydd blaenoriaeth o ran darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau LHDTC+ mae mynd i'r afael â throseddau casineb a dileu rhwystrau wrth roi gwybod am droseddau casineb a digwyddiadau casineb. Mae troseddau casineb yn ffiaidd ac yn gallu peri niwed i unigolion, i deuluoedd ac i gymunedau ehangach. Rydym yn gweithio'n galed i dargedu troseddwyr sy'n cyflawni trosedd casineb, a gyda chymorth asiantaethau partner, rydym yn gweithio'n galed i roi'r cymorth angenrheidiol i ddiogelu a thawelu meddyliau dioddefwyr.
Mae gwerthuso profiadau'r cyhoedd yn rhan ganolog o'n dull gweithredu ac mae'n cynnwys ymgysylltu â phobl LHDTC+ yn ein cymunedau. Caiff y gwaith hwn ei wneud gan ein tîm plismona lleol yn ogystal â'n carfan o swyddogion Troseddau Casineb. Mae'n helpu i roi gwybod am amrywiaeth o weithgareddau plismona ac ynghyd â dulliau eraill gan gynnwys gwaith ein Grŵp Cynghori Annibynnol (IAG), mae'n craffu ar y broses o ddarparu ein gwasanaethau, a ddylai fod yn falch, yn broffesiynol ac yn gadarnhaol.
Fel Heddlu, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu strwythur cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant cyffredinol ym mhob rhan o Heddlu De Cymru, yn ein gweithlu ac yn y gwasanaethau rydym yn eu darparu.
Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal, ac yn benderfynol o ddenu, cyflogi a chefnogi gweithlu sy'n cynrychioli'r gymdeithas amrywiol rydym yn ei gwasanaethu.
Rydym yn ymrwymedig i greu amgylchedd gwaith heb unrhyw aflonyddu, bygwth, bwlio neu erledigaeth.
Rydym yn falch o gael ystod amrywiol o rwydweithiau a chymdeithasau staff sydd, nid yn unig yn cefnogi'r rhai sy'n gweithio i Heddlu De Cymru ond sydd hefyd yn ein cefnogi ni fel sefydliad, gan helpu i wneud ein penderfyniadau.
Cafodd Rhwydwaith Heddlu LHDT+ Cymru ei greu i gefnogi'r bobl LHDTC+ sy'n gweithio yn y maes Plismona yng Nghymru. Ei nod yw hyrwyddo lle diogel i swyddogion a staff fod yn nhw eu hunain yn y gweithle a sicrhau y gallant gael gafael ar gymorth arbenigol yn ôl yr angen, gan feithrin cymuned. Mae hefyd yn gweithredu fel cyfaill critigol i'r sefydliad drwy helpu i greu polisïau cefnogol, rhoi mewnbwn cymunedol ac annog arferion gorau yn y sefydliad er mwyn helpu i wella'r ffordd rydym yn plismona pobl LHDTC+ yng Nghymru ac yn cefnogi ein gweithlu ein hunain.
Mae'r rhwydwaith hefyd yn helpu i greu cydberthynas gadarnhaol â'r gymuned yn ehangach er mwyn ceisio gwella'r cysylltiadau â gwasanaeth yr heddlu.
Mae'r rhwydwaith yn cydweithio â rhwydweithiau cymorth staff eraill ledled Cymru a'r DU i wella'r profiad o blismona grwpiau lleiafrifol o fewn y gymuned LHDTC+, megis pobl Drawsrywiol neu anneuaidd, pob deurywiol a LHDTC+ o gefndiroedd ethnig lleiafrifol nad ydynt wedi gallu codi eu lleisiau o fewn y maes plismona pobl LHDTC+.
Rydym yn deall bod rhagfarn hanesyddol a thriniaeth wael a anelwyd at LHDTC+ gan Heddlu De Cymru wedi achosi llawer o ddioddefaint i sawl un yn y gymuned LHDTC+. Rydym yn cydnabod camweddau blaenorol, y niwed a achoswyd gan systemau a phrosesau gwahaniaethol ac ymddygiad annerbyniol ein gweithlu.
Er na fedrwn ddadwneud y gorffennol, rhaid defnyddio methiannau blaenorol i ddysgu a gwella'r gwasanaeth a ddarperir gennym i'r gymuned LHDTC+. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd yn cynnig trywydd sy'n nodi sut rydym yn bwriadu gwireddu ein gweledigaeth o sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein holl gymunedau, a sut y byddwn yn trin pob aelod o deulu Heddlu De Cymru gyda'r urddas a'r parch y maent yn ei haeddu.
Rydym yn datblygu cynllun ymgysylltu i wella'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i aelodau o'r gymuned LHDTC+ yn Ne Cymru. Rydym am i'r fenter hon gael ei harwain gan ein cymunedau LHDTC+, bydd dull a arweinir gan y gymuned yn ein helpu i ddeall materion, heriau a phryderon penodol ac i gydnabod camweddau blaenorol.
Nid ydym yn cymryd llwyddiant neu welliant yn ymddiriedaeth a hyder y gymuned LHDTC+ yn ganiataol. Fodd bynnag, rydym yn credu y bydd y dull hwn, gan gynnwys cymryd rhan mewn digwyddiadau fel Pride, yn helpu i adeiladu ymddiriedaeth a sicrhau na fydd methiannau blaenorol yn cael eu hailadrodd.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech fod yn rhan o'n gwaith ymgysylltu, cysylltwch â'n tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: [email protected]