Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu De Cymru yn defnyddio system adnabod wynebau byw i gefnogi marchnadoedd Nadolig, digwyddiadau ac economi’r nos yn y lleoliadau a’r dyddiadau a ganlyn:
Pwrpas penodol y defnydd:
Bydd y lleoliadau lle mae Adnabyddiaeth Wyneb yn cael eu defnyddio wedi'u nodi'n glir gydag arwyddion.
Rydym yn cyhoeddi holl ganlyniadau pob defnydd adnabod wynebau byw.
Lawrlwythwch ganlyniadau gosodiadau Cydnabod Wyneb blaenorol.
Caiff Technoleg Adnabod Wynebau Fyw ei defnyddio fel tacteg blismona effeithlon ac effeithiol i osgoi a chanfod troseddau ac i amddiffyn y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Rydym fel rheol yn defnyddio'r dechnoleg mewn digwyddiadau cyhoeddus ac mewn mannau cyhoeddus prysur, ac mae'n cael ei gosod i helpu gweithrediadau plismona lle mae gennym y wybodaeth sy'n cefnogi'r defnydd ohoni.
Yn ystod y prawf diwethaf, llwyddwyd i adnabod tri unigolyn yn gywir a chafodd dau ohonynt eu harestio.
Mae Heddlu De Cymru yn profi ei dechnoleg adnabod wynebau gyda'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol. Mae'r gwaith profi hwn yn rhoi gwybodaeth perfformiad i ni a fydd yn ein galluogi i barhau i ddefnyddio'r dechnoleg hon yn gyfreithiol, yn deg ac yn effeithiol.
A gaiff yr holl broffiliau wyneb sy'n cael eu cymryd eu storio am gyfnod penodol o amser? Ai dim ond unigolion dan amheuaeth neu bobl mae'r heddlu'n chwilio amdanynt a gaiff eu hadnabod, neu a yw'n defnyddio ffynonellau proffiliau wyneb eraill yn ogystal â chofnodion yr heddlu?
Ni fyddwn byth yn storio eich data biometrig os nad ydych chi ar restr wylio. Cânt eu dileu'n awtomatig ar unwaith. Bydd Heddlu De Cymru hefyd yn dileu'r holl rybuddion ar unwaith ar ôl eu defnyddio neu o fewn 24 awr. Caiff y deunydd CCTV a ddefnyddir gan y dechnoleg ei recordio a'i gadw am hyd at 31 diwrnod.
Beth yw'r rhestr o wynebau a ddefnyddir er mwyn cymharu wrth ddefnyddio'r dechnoleg?
Rhestr wylio yw hon sy'n cynnwys manylion y bobl y mae'r heddlu yn chwilio amdanynt am droseddau, sy'n destun gorchmynion llys neu sy'n peri risg i'r cyhoedd. Ni allwch gael eich paru oni bai eich bod ar y rhestr wylio. Ni fu un camarestiad o ganlyniad i'r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau gan Heddlu De Cymru. Caiff rhybudd ei gynhyrchu pan fydd y dechnoleg yn canfod cyfatebiad posibl.
Caiff unrhyw rybuddion eu cadarnhau gan weithredwr cyn y bydd swyddogion yn ymyrryd ar lawr gwlad. Bydd y system ond yn ceisio paru'r unigolion hynny sydd ar y rhestr wylio. Mae pob rhestr wylio yn unigryw i'r digwyddiad hwnnw lle caiff y dechnoleg ei dosbarthu.
Beth yw ystyr dileu delweddau “dim rhybudd” a data biometrig ar unwaith os caiff y deunydd CCTV ei gadw am 31 diwrnod?
Mae hyn yn ymwneud â data biometrig pobl nad ydynt yn achosi rhybudd. Caiff y data biometrig eu dileu'n awtomatig ac ar unwaith. O ran y delweddau hynny sy'n achosi rhybudd, caiff y rhain eu dileu o fewn 24 awr.
Beth am hawliau preifatrwydd a chyfreithlondeb technoleg adnabod wynebau byw?
Mae defnydd Heddlu De Cymru o dechnoleg adnabod wynebau byw wedi'i gynllunio i fod yn gyfrifol, yn gymesur ac yn deg. Ei nod yw cadw'r cyhoedd yn ddiogel, adnabod troseddwyr difrifol ac amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed. Mae Heddlu De Cymru yn arfer tryloywder sy'n dangos effeithiolrwydd, cymesuredd a chydymffurfiaeth â deddfwriaeth a chanllawiau wrth ddefnyddio technoleg adnabod wynebau byw.
A allaf i optio allan os ydw i’n ddinesydd sy’n parchu’r gyfraith?
Dim ond pobl mae'r heddlu'n chwilio amdanynt neu sydd dan amheuaeth a fydd ar restr wylio wedi'i hawdurdodi, ac ni allant optio allan. Os ydych yn awyddus i gael eich eithrio o'r defnydd o'r dechnoleg, nid yw hyn ar ei ben ei hun yn sail i ni ryngweithio â chi. Byddwn bob amser yn cyhoeddi'r dyddiadau a'r lleoliadau lle defnyddir y dechnoleg sawl diwrnod ymlaen llaw, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol iawn.
A gaiff unrhyw ddata eu cadw ar ffeil, ac os felly, sut y gallaf wneud cais i gael mynediad at y data hynny?
Caiff delweddau/data biometrig o bobl nad ydynt yn achosi rhybudd eu dileu yn awtomatig ac ar unwaith. Caiff delweddau sy'n achosi rhybudd eu dileu ar unwaith ar ôl eu defnyddio, neu o 24 awr. Caiff deunydd CCTV a ddefnyddir gan y dechnoleg adnabod wynebau byw ei recordio a'i gadw am 31 diwrnod.
A yw'r dechnoleg adnabod wynebau byw yn wahaniaethol mewn unrhyw ffordd?
Yn hanesyddol, bu trafferthion gyda Thechnoleg Adnabod Wynebau a rhagfarn bosibl ar sail rhyw ac ethnigrwydd. Mae'r rhagfarn hon wedi lleihau'n sylweddol dros amser wrth i'r dechnoleg ddatblygu. Er mwyn sicrhau ein bod yn deall unrhyw ragfarn gyda'r dechnoleg, rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r Labordy Ffiseg Cenedlaethol i gynnal astudiaeth fanwl i weld a yw'r rhagfarn hon yn parhau i fod yn bresennol a sut y gallwn roi cyfrif am hyn wrth ddefnyddio'r dechnoleg.
A gaiff y data eu rhannu ag unrhyw bartïon eraill?
Ni fyddwn fyth yn trosglwyddo data biometrig i unrhyw asiantaethau trydydd parti.
Caiff yr holl ddeunydd CCTV a gaiff ei recordio gan CCTV symudol ei ddileu o fewn 31 diwrnod yn yr enghreifftiau isod, pan gaiff ei gadw:
a) yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, safonau Rheoli Gwybodaeth yr Heddlu a Deddf Gweithdrefn ac
Ymchwiliadau Troseddol 1996; a/neu
b) yn unol â pholisïau cwynion/ymchwilio i ymddygiad Heddlu De Cymru.
Allwch chi roi amcan i ni o'r ganran o wynebau a gaiff eu dal a gaiff eu hadnabod gan y system? Hefyd, pa gronfa ddata o ddelweddau o wynebau rydych chi'n eu defnyddio er mwyn cymharu delweddau â nhw?
Gall y ganran hon amrywio a chaiff ei heffeithio gan sawl ffactor gan gynnwys cwmpas y rhestr wylio a faint o bobl sy'n mynd drwy barth adnabod y camera.
A oes Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data ar gyfer y defnydd o'r dechnoleg?
Oes. Mae'r holl ddogfennau sy'n ymwneud â'r defnydd o Dechnoleg Adnabod Wynebau Byw ar gael yma: Live Facial Recognition documents | South Wales Police (south-wales.police.uk)