Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Y tro diwethaf i Heddlu De Cymru gyflwyno Technoleg Adnabod Wynebau Byw oedd yng nghanol dinas Caerdydd ar Heol y Frenhines ar 13 Awst 2022. Cafodd ei defnyddio er mwyn cefnogi rownd 7 Grand Prix Speedway FIM a gynhaliwyd yn Stadiwm Principality.
Roedd dau bwrpas penodol i hyn:
Dyma ganlyniadau'r defnydd ar 13 Awst 2022 yng nghanol dinas Caerdydd.
Roedd fan Technoleg Adnabod Wynebau gyda swyddogion i ddangos sut mae'r dechnoleg yn gweithio, y ffordd y caiff ei reoli, a'r canlyniadau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y defnydd o Dechnoleg Adnabod Wynebau Byw, ewch i'r dudalen Cwestiynau Cyffredin am ragor o wybodaeth.
Ni chafodd Technoleg Adnabod Wynebau Byw ei defnyddio yn Pride Cymru 2022 yng nghanol dinas Caerdydd ar 27 a 28 Awst.
Y tro diwethaf i Dechnoleg Adnabod Wynebau Byw ei defnyddio yng nghanol dinas Caerdydd oedd yn ystod gêm rygbi'r chwe gwlad Cymru yn erbyn yr Eidal ar 19 Mawrth 2022. Gweld canlyniadau'r defnydd hwnnw.