Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn defnyddio technoleg adnabod wynebau i atal a chanfod troseddau a helpu i ddiogelu'r rhai agored i niwed.
Gall technoleg Adnabod Wynebau gymharu wyneb person o lun digidol â chronfa ddata o wynebau.
Ceir canllaw ar yr holl dermau a ddefnyddir ym maes adnabod wynebau, ynghyd â diffiniadau:
Mae'n dadansoddi nodweddion allweddol ac yn cynhyrchu cynrychiolaeth fathemategol o'r nodweddion hyn. Yna, mae'n eu cymharu â chynrychiolaeth fathemategol wynebau hysbys mewn cronfa ddata, gan nodi cyfatebiadau posibl.
Mae Heddlu De Cymru yn defnyddio Technoleg Adnabod Wynebau yn yr achosion canlynol:
Wrth ddefnyddio Technoleg Adnabod Wynebau, rydym yn cydnabod bod angen i ni gydbwyso pryderon am breifatrwydd a diogelwch yn barhaus, yn ogystal ag ystyried y goblygiadau cyfreithiol a moesegol.
Cysylltwch â ni yn [email protected] os bydd gennych unrhyw ymholiadau pellach.
Mae Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd (MPS) a Heddlu De Cymru wedi profi Technoleg Adnabod Wynebau (FRT) gyda'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol (NPL). Mae'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol yn ganolfan ragoriaeth o'r radd flaenaf sy'n darparu dulliau mesur blaengar ym maes gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg. Diolch i brofion blaenorol a gynhaliwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg (NIST), roedd Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd a Heddlu De Cymru yn gwybod bod eu Technoleg Adnabod Wynebau yn defnyddio algorithm sy'n perfformio'n dda; nod y profion oedd meithrin dealltwriaeth fanwl o berfformiad yr algorithm pan oedd yn cael ei ddefnyddio mewn amgylcheddau gweithredol. Y tri achos defnydd ym maes plismona oedd;
Cafodd cynllun profi'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol ei lunio'n benodol er mwyn helpu i nodi unrhyw effaith y gall y dechnoleg hon ei chael ar unrhyw nodweddion gwarchodedig, yn enwedig hil, oedran a rhyw.
Mae adroddiad y Labordy Ffisegol Cenedlaethol yn rhoi dadansoddiad diduedd i ni sy'n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol o berfformiad yr algorithm adnabod wynebau a ddefnyddir ar hyn o bryd gan Wasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd a Heddlu De Cymru. Mae'n dweud wrthym:
Mae canlyniadau'r profion yn helpu Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd a Heddlu De Cymru i ddeall sut i ddefnyddio Technoleg Adnabod Wynebau mewn ffordd deg er mwyn atal a chanfod troseddau, sicrhau diogelwch gwladol a chadw pobl yn ddiogel.
Caiff y canlyniadau llawn eu cyflwyno yn yr adroddiad a gomisiynwyd gan y Labordy Ffisegol Cenedlaethol: ‘Facial Recognition Technology in Law Enforcement Equitability Study’
Mae rhagor o wybodaeth am y profion ar gael yn y Strategaeth Brawf ar gyfer Astudiaeth Tegwch Technoleg Cydnabod Wynebau mewn Gorfodi’r Gyfraith.
Mae Adnabod Wynebau Byw (LFR) yn cyfeirio at broses o gymharu ffrwd camera byw o wynebau â rhestr wylio a bennwyd ymlaen llaw mewn amser real. Mae’n cael ei defnyddio i ddod o hyd i bobl o ddiddordeb drwy gynhyrchu rhybudd pan fydd cyfatebiad posibl yn cael ei nodi.
Ar hyn o bryd, mae Heddlu De Cymru yn defnyddio technoleg adnabod wynebau NeoFace NEC.
Cyn defnyddio LFR, caiff rhestr wylio o droseddwyr y mae'r heddlu a'r llysoedd yn chwilio amdanynt ei llunio. Mae'r rhestr wylio hefyd yn cynnwys pobl a allai beri risg o niwed iddyn nhw eu hunain neu i eraill.
Mae camerâu LFR yn targedu ardal, ac mae'r lluniau'n cael eu ffrydio i'r dechnoleg adnabod wynebau byw. Mae’r lluniau’n cael eu cymharu â'r lluniau yn y rhestr wylio. Pan fydd y dechnoleg yn nodi cyfatebiad posibl, bydd yn cynhyrchu rhybudd.
Yna, bydd swyddog yn cymharu llun y camera â'r person y mae'n ei weld, ac yn penderfynu a ddylid siarad â'r person hwnnw.
Byddwn bob amser yn esbonio pam rydym wedi dewis siarad â rhywun, ac yn rhoi taflen wybodaeth iddo gyda manylion cyswllt os bydd ganddo ragor o gwestiynau. Ni ellir nodi pobl nad ydynt wedi'u cynnwys ar restr wylio.
Byddwn yn dileu'r lluniau a'r rhybuddion yn syth ar ôl eu defnyddio, neu o fewn 24 awr. Bydd lluniau a data biometrig pawb nad ydynt yn achosi rhybudd yn cael eu dileu'n awtomatig yn syth. Rydym yn recordio'r deunydd camera teledu cylch cyfyng a ddefnyddir gan y dechnoleg LFR ac yn ei gadw am 31 diwrnod.
Ystyrir bod technoleg Adnabod Wynebau Byw yn dacteg plismona effeithlon ac effeithiol i atal a chanfod troseddau a diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Fel arfer, byddwn yn defnyddio'r dechnoleg mewn digwyddiadau cyhoeddus a mannau cyhoeddus prysur, a chaiff ei defnyddio i gynorthwyo gweithrediadau plismona lle mae gennym gudd-wybodaeth i gefnogi hyn.
Bydd Heddlu De Cymru yn gwneud popeth rhesymol bosibl i hysbysu'r cyhoedd lle rydym yn defnyddio technoleg Adnabod Wynebau, er enghraifft:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y defnydd o Dechnoleg Adnabod Wynebau Byw, darllenwch ein cwestiynau cyffredin.
Mae technoleg Adnabod Wynebau Ôl-weithredol (RFR) yn cymharu lluniau llonydd o wynebau pobl anhysbys â chronfa ddata o luniau cyfeirio er mwyn eu hadnabod ar ôl digwyddiad.
Ar hyn o bryd, mae Heddlu De Cymru yn defnyddio technoleg adnabod wynebau NeoFace NEC.
Defnyddir RFR ar ôl digwyddiad fel rhan o'r ymchwiliad troseddol. Fel arfer, bydd lluniau’n cael eu cyflenwi o gamerâu teledu cylch cyfyng, ffonau symudol neu'r cyfryngau cymdeithasol. Yna, bydd y lluniau hyn yn cael eu cymharu â'n lluniau ni a dynnwyd yn y ddalfa.
Mae'r gronfa ddata gyfeirio a ddefnyddir gan Heddlu De Cymru yn cynnwys lluniau a dynnwyd yn y ddalfa gan Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Mae'n cynnwys dros 600,000 o luniau.
Ar ôl chwilio drwy'r gronfa, mae'r dechnoleg yn aildrefnu'r lluniau cyfeirio o'r cyfatebiad posibl mwyaf tebygol i'r un lleiaf tebygol.
Fel arfer, bydd gweithredwr yn adolygu'r 200 o gyfatebiadau posibl mwyaf tebygol er mwyn penderfynu a oes cyfatebiad wedi'i wneud. Os bydd y gweithredwr yn penderfynu bod cyfatebiad wedi'i wneud, bydd yn rhoi gwybod i'r swyddog ymchwilio. Bydd y swyddog ymchwilio yn adolygu'r cyfatebiad ac yn ychwanegu'r person at yr ymchwiliad fel unigolyn a ddrwgdybir.
Defnyddir technoleg RFR i gynorthwyo gydag ymchwiliad i drosedd er mwyn nodi unigolyn a ddrwgdybir mewn modd effeithlon ac effeithiol. Pan fydd unigolyn a ddrwgdybir o drosedd yn parhau'n anhysbys, defnyddir RFR.
App Technoleg Adnabod Wynebau ar ffôn symudol yw OIFR App. Mae'n cymharu llun o wyneb person a dynnwyd ar ffôn symudol â lluniau o wynebau mewn rhestr wylio/rhestrau gwylio a bennwyd ymlaen llaw er mwyn helpu swyddog i adnabod testun.
Bydd swyddog yn tynnu llun ar ei ffôn symudol ac yn ei gymharu â rhestr wylio/rhestrau gwylio. Mae'r rhestr wylio sydd ar gael i'r swyddog yn cynnwys lluniau a dynnwyd yn y ddalfa a ddelir gan Heddlu de Cymru a Heddlu Gwent a phobl sydd ar goll yn ardal Heddlu De Cymru.
Ar ôl chwilio drwy'r rhestr wylio/rhestrau gwylio dan sylw, bydd y dechnoleg yn aildrefnu'r lluniau o'r cyfatebiad posibl mwyaf tebygol i'r un lleiaf tebygol. Bydd y chwe chyfatebiad posibl mwyaf tebygol yn cael eu hanfon i ffôn symudol y swyddog. Bydd y swyddog yn adolygu'r chwe chyfatebiad posibl mwyaf tebygol ac yn penderfynu a oes cyfatebiad wedi'i wneud. Os bydd cyfatebiad wedi'i wneud, yna gellir gwneud gwiriadau pellach mewn perthynas â'r testun yn erbyn systemau'r heddlu.
Byddwn bob amser yn esbonio i'r person pan fyddwn yn defnyddio OIFR App ac yn dweud wrtho sut y gall gysylltu â ni os bydd ganddo ragor o gwestiynau.
Ni ellir nodi pobl nad ydynt wedi'u cynnwys ar restr wylio. Bydd y llun, a dynnir ar y ddyfais symudol, a'r data biometrig, yn cael eu dileu'n awtomatig yn syth ar ôl i'ch chwiliad gael ei gwblhau.
Ni fydd OIFR App yn cael ei ddefnyddio yn lle dulliau adnabod traddodiadol, megis cael sgwrs â’r unigolyn a fydd yn rhoi ei enw, a fydd yn cael ei wirio yn erbyn systemau’r heddlu er mwyn adnabod testun.
Lle y bo’n bosibl, dim ond ar ôl i’r swyddog ryngweithio â’r testun y bydd OIFR App yn cael ei ddefnyddio.
Nid yw FRApp yn disodli’r broses RFR bresennol, ond yn lle hynny, mae’n cael ei ddefnyddio fel adnodd cudd-wybodaeth ‘ar y stryd’ i helpu swyddogion i adnabod person anhysbys.
Dim ond pan fydd manylion testun yn anhysbys a phan fydd sail resymol dros ddefnyddio FRApp y bydd yn cael ei ddefnyddio.
Dim ond at ddibenion plismona pan fydd un o’r seiliau canlynol yn berthnasol y gellir defnyddio OIFR App: Pan fydd y dioddefwr:
Adnabod Wynebau Ôl-weithredol
Polisi Adnabod Wynebau Byw
Ap Adnabod Wynebau
Dadlwythwch y pdf o restr o'r holl leoliadau adnabod wynebau byw blaenorol ers 2017.
Yr hyn y mae angen ei gofnodi ar ôl defnyddio’r rhaglen: -