Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau.
Bod yn falch, yn broffesiynol ac yn gadarnhaol ym mhopeth a wnawn.
Plismona â Diben yw ein haddewid i flaenoriaethu dioddefwyr, dal troseddwyr a diogelu pobl fregus.
Y Cod Moeseg yw’r canllaw ysgrifenedig i’r egwyddorion y disgwylir i bob aelod o’r proffesiwn plismona yng Nghymru a Lloegr eu cynnal a’r safonau ymddygiad y disgwylir iddynt eu cyrraedd.
Dyma’r tro cyntaf i’r egwyddorion a’r safonau ymddygiad hyn gael eu nodi mewn un ddogfen, a bwriedir iddi gael ei defnyddio o ddydd i ddydd i lywio ymddygiad a phenderfyniadau. Lluniwyd y Cod Moeseg gan y Coleg Plismona yn ei rôl fel y corff proffesiynol ar gyfer plismona. Mae’n nodi ac yn diffinio safonau ymddygiad rhagorol ar gyfer pawb sy’n gweithio ym maes plismona.
Bydd ein Cyd-bwyllgor Moeseg Annibynnol yn cynnig cyngor, cefnogaeth a chymorth yn ymwneud â’r heriau moesegol sy’n deillio o faterion gweithredol, gweinyddol neu sefydliadol a wynebir gan Heddlu De Cymru.
Ni fydd y Pwyllgor yn delio â materion yn ymwneud â chamymddwyn; caiff y rhain eu trin gan ein Hadran Safonau Proffesiynol o hyd. Ni fydd y pwyllgor moeseg yn ystyried Cwynion na cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth.
Mae’r Pwyllgor yn cynnwys yr aelodau canlynol o leiaf:
Cadeirydd y Pwyllgor yw Dr John William Devine, Uwch-ddarlithydd mewn Moeseg ym Mhrifysgol Abertawe. Cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Moeseg Gwleidyddol ym Mhrifysgol Rhydychen (New College), MPhil mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt (King's College) a BA mewn Athroniaeth a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Dulyn. Cymhwysodd yn fargyfreithiwr hefyd a chafodd ei alw i Far Cymru a Lloegr gan y Deml Ganol. Cyn cyrraedd Abertawe, bu'n addysgu Athroniaeth Foesol a Gwleidyddol ym Mhrifysgol Birmingham a King's College, Llundain.
Is-gadeirydd y Pwyllgor yw Bronwen Williams, sy'n fam i ddwy efaill ac sy'n byw bywyd prysur y tu allan i'w bywyd academaidd. Mae wedi gweithio yn y sector addysg uwch ers 17 o flynyddoedd; mae'n gyfarwyddwr academaidd ar gyfer y gyfraith, troseddeg a phlismona ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar hyn o bryd, gan weithio gydag asiantaethau allanol sy'n gysylltiedig â'r meysydd hyn ac mae'n aelod o sawl bwrdd. Mae Bronwen yn ynad ar gyfer Mainc Gorllewin Morgannwg ac yn aelod o Gymdeithas yr Ynadon. Mae'n frwd dros weithio gyda'r gymuned a chreu cymdeithas ddiogel a chyfiawn.
Mae Telerau Busnes y Cyd-bwyllgor Moeseg Annibynnol yn nodi cwmpas diben a swyddogaeth y Pwyllgor.
Dyma’r cofnodion diweddaraf o Y Cyd-bwyllgor Moeseg Annibynnol.