Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel ffordd ychwanegol o ymgysylltu â'n cymunedau. Rydym am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, ein dilynwyr, am yr hyn sy'n digwydd yn eich ardal a rhoi cyngor ar atal troseddau i chi. Rydym yn gwybod hefyd y gallwch roi cymorth amhrisiadwy i ni pan fyddwn yn apelio am wybodaeth.
Rydym am i'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol fod yn lleoedd diogel i bawb sy'n eu defnyddio, felly gofynnwn i'n holl ddilynwyr ddilyn ein rheolau tŷ. Rydym yn cadw'r hawl i guddio neu ddileu sylwadau neu flocio defnyddwyr sy'n torri'r rheolau tŷ hyn.
Mae hyn yn bwysig iawn. Ni chaiff sylwadau cyhoeddus ar ein postiadau yn cael eu safoni 24/7, ac nid ydynt yn cael eu monitro gan ein hystafell reoli. Os byddwch am roi gwybod am drosedd neu ddarparu gwybodaeth mewn ymateb i apêl ar y cyfryngau cymdeithasol, RHAID gwneud hyn trwy ein gwefan neu drwy ffonio 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Os welwch chi rhywbeth rydych chi'n meddwl sy'n torri telerau ac amodau platfform cyfryngau cymdeithasol, dylech ei adrodd i'r platfform hwnnw.
Os credwch fod trosedd yn cael ei chyflawni ar-lein, dylech roi gwybod i ni drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101. Dim ond mewn argyfwng y dylech ffonio 999. Peidiwch â rhannu dolenni i ddeunydd anghyfreithlon mewn sylw cyhoeddus.
Cofiwch fod popeth rydych yn ei ddweud ar ein cyfrifon yn gyhoeddus. Mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol am yr hyn rydych yn ei ddweud a'i bostio ar ein tudalennau.
Gallwn ddiffodd sylwadau, ond mae'n well gennym wneud hyn fel y dewis olaf. Bwriad ein sianeli cyfryngau cymdeithasol erioed fu galluogi deialog ddwyffordd rhyngom ni a'n dilynwyr ac rydym am gyfyngu cyn lleied â phosibl ar hyn.
Gan gadw hynny mewn cof, peidiwch â phostio cynnwys:
Caiff sylwadau eu cymedroli, ond nid 24/7, a gan ein bod yn cael cynifer o sylwadau cyhoeddus, nid ydym yn eu gweld yn syth bob amser. Fodd bynnag, rydym yn cadw'r hawl i ddileu neu guddio sylwadau, neu flocio unrhyw ddefnyddwyr sy'n torri'r canllawiau hyn, heb esboniad, a newid ein canllawiau ar unrhyw adeg a heb rybudd.
O ran y sylwadau/defnyddwyr hynny a all groesi'r trothwy troseddol, byddwn hefyd yn ceisio erlyn os bydd angen.
Os byddwch am wneud cwyn yn erbyn Heddlu De Cymru neu un o'i swyddogion/aelodau o staff, gallwch wneud hynny ar ein gwefan yma.