Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
20-24 Chwefror 2023
Yn ystod hanner tymor mis Chwefror, dewch â'ch chwyddwydr ac ymunwch â ni yn y Ganolfan Treftadaeth ym mhencadlys Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer wythnos o ddirgelwch a rhyfeddod wrth i chi fod yn dditectif am ddiwrnod!
O adnabod wynebau, i olion bysedd - dewch o hyd i'r wyddoniaeth a ddefnyddir i helpu i gadw De Cymru'n ddiogel drwy'r oesoedd, a gweld a oes gennych y sgiliau i ddod yn dditectif medrus go iawn.
Gyda chell o oes Fictoria i gloi'r euog, a llwybr ditectif drwy'r amgueddfa, mae gan y Ganolfan Treftadaeth ddigon i ddiddanu eich darpar ymchwilwyr dros hanner tymor.
Mae Canolfan Treftadaeth Heddlu De Cymru ond ar agor i'r cyhoedd drwy apwyntiad. Os hoffech drefnu ymweliad â'r Ganolfan Dreftadaeth, anfonwch e-bost aton ni: [email protected].
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich ffurflen cadw lle byddwch yn cael neges e-bost yn ôl gennym yn cadarnhau'r manylion. Os hoffech drefnu ymweliad dros y ffôn, ffoniwch 01656 761 855 a gadewch neges.
Peidiwch â defnyddio'r rhif hwn i roi gwybod am drosedd – ffoniwch 101 i roi gwybod am drosedd nad yw'n frys neu 999 mewn argyfwng.
Mae mynediad am ddim i'r Ganolfan Treftadaeth. Ni ellir gwarantu y bydd lleoedd parcio i ymwelwyr ar y safle. Gofynnir i ymwelwyr barcio cerbydau o flaen pencadlys yr heddlu yn y maes parcio i ymwelwyr neu oddi ar y safle os na fydd lle ar gael. Rhaid gwneud trefniadau arbennig ymlaen llaw ar gyfer deiliaid bathodyn glas a gofynnir i fysiau barcio oddi ar y safle.
Gellir ymweld â ni rhwng 9am a 5pm ar ddydd Mawrth a dydd Iau, a rhwng 11am a 5pm ar ddydd Mercher.
Caiff pob ymwelydd ei hebrwng i'r Ganolfan ac oddi yno yn y ffordd fwyaf diogel posibl. Ar eu ffordd i'r Ganolfan Treftadaeth, bydd ymwelwyr yn mynd drwy fynedfa sydd â ramp a chanllaw. Mae dwy res o risiau yn arwain i lawr i'r Ganolfan Treftadaeth – mae gan y ddwy ohonynt lifftiau grisiau gwastad i ddefnyddwyr cadair olwyn.
Cyfeiriad: Canolfan Treftadaeth Heddlu De Cymru, Pencadlys Heddlu De Cymru,
Heol y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU.