Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar ôl cyfnod yn gweithio fel glöwr, ymunodd Richard 'Dick' Thomas â Heddlu Morgannwg yn 1904, yn 23 oed. Yn ystod ei flynyddoedd cynnar fel un o gwnstabliaid yr heddlu, gwasanaethodd yn rhanbarthau Aberdâr, Ystrad Mynach a Phen-y-bont ar Ogwr.
Yn ystod y blynyddoedd hyn, llwyddodd hefyd i greu cryn argraff fel chwaraewr rygbi. Rhwng 1906 a 1909, ymddangosodd Dick bedair gwaith yn cynrychioli Cymru, gan chwarae rhan fel aelod o'r timau a enillodd ddwy Gamp Lawn yn 1908 a 1909.
Yn ogystal â'i anrhydeddau rhyngwladol, cynrychiolodd Dick hefyd Sir Forgannwg a chwaraeodd rygbi clwb i Benygraig, Pen-y-bont ar Ogwr, Aberpennar, Heddlu Morgannwg a'i bentref lleol, Glynrhedynog.
Tra'n gwasanaethu o hyd fel un o swyddogion yr heddlu, cafodd Dick ei ddyrchafu i reng Rhingyll ym mis Awst 1913 ac roedd yn gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Fel cynifer o ddynion ifanc ei genhedlaeth, gwnaeth Dick yr aberth eithaf drwy ymrestru i ymladd yn y Rhyfel. Ynghyd â llawer o swyddogion eraill yr heddlu o ardal Morgannwg, ymunodd Dick ag 16eg Bataliwn Dinas Caerdydd a oedd yn rhan o Gatrawd Cymru.
Yn anffodus, cafodd Dick ei ladd wrth ymladd ym Mametz Wood yn 1916. Nid oes ganddo fedd hysbys, ond caiff ei goffáu ar Gofeb Thiepval i'r Colledig ar y Somme. Caiff hefyd ei goffáu ar Gofeb Rhyfel Heddlu Morgannwg y tu allan i Bencadlys Heddlu De Cymru.
Yn ystod blynyddoedd Canmlwyddiant y Rhyfel Mawr, adroddwyd hanes hynod Dick yn fanwl mewn llyfryn a gynhyrchwyd gan y Ganolfan Treftadaeth. Gan ddefnyddio ffynonellau a ffotograffau gwreiddiol, mae'r llyfryn yn adrodd hanes ei fywyd, ei yrfa yn yr heddlu a'i farwolaeth drist ar flaen y gad.
Gellir gweld y llyfryn isod.