Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cwnstabliaeth Morgannwg oedd y mwyaf o heddluoedd rhagflaenol Heddlu De Cymru, ac, yn anochel felly, roedd y rhan fwyaf o'r heddweision a ymunodd â'r lluoedd arfog yn hanu o'r gwnstabliaeth hon.
Yn drist iawn, bu farw 62 o heddweision o lu Morgannwg.
Mae 58 ohonynt wedi'u henwi ar Gofeb Rhyfel Heddlu Morgannwg ym Mhencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
O ganlyniad i'n hymchwil, mae enwau pedwar arall, Cwnstabliaid yr Heddlu Churches, Hiscock, Perkins a Trott wedi cael eu nodi a chânt bellach eu cydnabod drwy eu cynnwys ar y Rhestr Gwroniaid hon.