Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bu cannoedd o swyddogion o'n heddluoedd rhagflaenol, sef heddluoedd Morgannwg, Caerdydd, Abertawe, Merthyr Tudful a Chastell-nedd, yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Rydym wedi adnabod 94 a fu farw o ganlyniad i'r Rhyfel fel rhan o'n Prosiect Rhyfel Byd Cyntaf.
Caiff y mwyafrif ohonynt eu cofio ar Gofeb Rhyfel Heddlu Morgannwg ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Coflech Heddlu Dinas Caerdydd yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd, Cofgolofn Heddlu Bwrdeistref Abertawe yn yr Orsaf Heddlu Ganolog yn Abertawe a Chofgolofn Heddlu Bwrdeistref Merthyr Tudful yng Ngorsaf Heddlu Merthyr. Mae Rhestr Gwroniaid Cwnstabliaeth Morgannwg i'w gweld hefyd yn y Ganolfan Treftadaeth ym Mhencadlys yr Heddlu.
O ganlyniad i'n hymchwil, gallwn nawr gyflwyno Rhestr Gwroniaid sy'n casglu'r holl fanylion cryno ynghyd am bawb a fu farw o heddluoedd Morgannwg, Caerdydd, Abertawe a Merthyr (ymddengys na fu farw'r un swyddog o Heddlu Castell-nedd). Mae mwy o wybodaeth amdanynt i'w gweld yn y llyfrynnau sydd ar y dudalen flaenorol.
Ni chânt fyth eu hanghofio.
Cânt eu cofio â balchder.