Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar 28 Gorffennaf 1913, ymunodd Ernest a oedd yn 19 oed â Heddlu Morgannwg. Fodd bynnag, dim ond blwyddyn yn ddiweddarach, dilynodd nifer o'i gyfoedion i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn dilyn y cyhoeddiad bod Prydain wedi mynd i ryfel, ymddiswyddodd Rollings o'r heddlu ar 30 Hydref 1914 er mwyn ymuno ag 2il Warchodlu'r Dragwniaid. Ar ôl misoedd o hyfforddiant cynhwysfawr, fe'i hanfonwyd ar gyfnod gwasanaeth gweithredol i Ffrainc fel aelod o Filwyr Traed Ysgafn Swydd Efrog y Brenin Ei Hun ym mis Gorffennaf 1915.
Ar ôl cael ei anafu, gadawodd Rollings y rheng flaen gan ddychwelyd i Loegr ym mis Tachwedd 1915. Yn ystod ei gyfnod yn Lloegr, daeth yn Ail Is-gapten y Corfflu Peiriannau Saethu – sef y Corfflu Tanciau yn ddiweddarach.
Ac yn ystod ei gyfnod yn gwasanaethu â'r Corfflu Tanciau yn Ypres y cafodd Rollings ei Groes Filwrol gyntaf. Yma, cafodd ei ganmol am ei “conspicuous gallantry and devotion to duty” ar 21 a 22 Awst 1917.
Dychwelodd Rollings i Loegr ar 19 Ionawr 1918 i ymuno â bataliwn ceir durblat newydd. Cafodd aelodau'r bataliwn eu hyfforddi ar fyrder, a byddent yn chwarae rhan hanfodol ym Mrwydr Amiens.
Ar 8 Awst 1918, roedd Rollings yn gyfrifol am ddau gar durblat ar ymgyrchoedd ymosodol, a oedd yn anelu at gyrraedd Framerville yn Ffrainc, ddeng milltir y tu ôl i linellau'r gelyn. Erbyn canol dydd, roedd ef a'i ddynion wedi ymladd eu ffordd tuag at y pentref, ac wedi llwyddo i gael gafael ar ddogfennaeth hanfodol a oedd wedi'i chadw ym mhencadlys y gelyn. Cafodd Rolling ail Groes Filwrol am ei ddewrder a'i ymddygiad yn ystod y diwrnodau hyn. Yn hanfodol, dywedwyd yn ddiweddarach bod y dogfennau y llwyddodd i gael gafael arnynt wedi helpu i ddod â'r Rhyfel i ben yn gyflymach.
Ar ôl y rhyfel, ailymunodd Rollings â Heddlu Morgannwg. Ym mis Tachwedd 1922, trosglwyddodd i Heddlu Bwrdeistref Castell-nedd ac ymddeolodd wedi hynny o'i swydd fel Prif Gwnstabl Dros Dro y Fwrdeistref yn 1943.
Agorwyd arddangosfa dros dro yn adrodd hanes Ernest Rollings yn Amgueddfa'r Firing Line yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2017. Roedd yr arddangosfa yn cynnwys eitemau ac effemera a gasglwyd gan Rollings drwy gydol ei oes. Erbyn iddi gau yn 2018, roedd dros 100,000 o ymwelwyr wedi gweld yr arddangosfa.
Yn 2018, cynhyrchwyd llyfryn er mwyn adrodd hanes llawn a diddorol Ernest Rollings, y dyn a ddaeth â'r rhyfel i ben yn gyflymach.
Mae'r llyfryn yn cynnwys ffotograffau a ffynonellau gwreiddiol, ac mae'n adrodd hanes ei fywyd a'i wasanaeth fel swyddog yr heddlu ac fel milwr.
Gallwch ddarganfod ei hanes anhygoel drwy glicio ar y ddolen isod.