Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn 2014, sefydlodd Heddlu De Cymru brosiect i gyd-fynd â dechrau cyfnod coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Nod y prosiect oedd cofio'r swyddogion heddlu hynny o heddluoedd rhagflaenol Heddlu De Cymru, sef Morgannwg, Caerdydd, Abertawe, Merthyr a Chastell-nedd, a wasanaethodd yn ystod y rhyfel ac yn enwedig y rheini a wnaeth yr aberth eithaf.
Rhwng 2014 a 2018, cynhyrchodd y prosiect ddeunyddiau sylweddol a lluniwyd arddangosfa barhaol am y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Ganolfan Treftadaeth.
Gyda chymorth gan nifer o swyddogion ac aelodau o staff a chan ddefnyddio ffotograffau ac erthyglau newyddion gwreiddiol, cynhyrchwyd y ffilm fer hon i goffáu canmlwyddiant dechrau'r rhyfel.
Cynhyrchwyd ail ffilm yn 2018 i goffáu diwedd y canmlwyddiant ac mae'n cynnwys rhestr anrhydeddu er mwyn cofio'r rheini a wnaeth yr aberth eithaf.
Lluniwyd cyfres o lyfrynnau hefyd, gan adlewyrchu'r gwaith a wnaed fel rhan o'r prosiect. Cynhyrchwyd cyfanswm o 10 llyfryn rhwng 2014 a 2020. Cynhyrchwyd pump ar gyfer pob blwyddyn o'r rhyfel ac mae blaen y llyfrynnau yn cofio'r rhai a fu farw. Cynhyrchwyd tri arall ar y Gwarchodlu Cymreig, Richard Thomas ac Ernest Rollings. Cynhyrchwyd llyfryn Rhestr Anrhydeddu hefyd er mwyn coffáu diwedd y Canmlwyddiant yn 2018.
Yn 2020, cynhyrchwyd degfed llyfryn, a'r un olaf, â'r teitl priodol "Concluding the Story". Roedd yn crynhoi gwaith y prosiect, yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a oedd wedi dod i'r amlwg ers cynhyrchu'r llyfrynnau blaenorol ac yn adrodd hanesion rhai o swyddogion yr heddlu a oroesodd eu cyfnod yn ymladd yn y Rhyfel.
Cynhyrchwyd y llyfrynnau canlynol rhwng 2014 a 2020:
Gellir gweld y llyfrynnau am Richard Thomas a Ernest Rollings yn y tudalennau isod.