Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Canolfan Treftadaeth Heddlu De Cymru wedi sefydlu a chydweithio ar nifer o brosiectau diddorol iawn sy'n ymwneud â hanes a threftadaeth yr heddlu yn ne Cymru.
Mae staff Heddlu De Cymru – gan gynnwys aelodau sy'n dal i wasanaethu a rhai sydd wedi ymddeol – wedi bod yn rhan o waith y Ganolfan Treftadaeth, sydd â'r nod o alluogi'r heddlu i godi ymwybyddiaeth o'i dreftadaeth ac ymgysylltu â chymunedau.
Ymhlith y prosiectau cydweithredol a gynhaliwyd yn flaenorol mae prosiectau ymchwil dan arweiniad yr heddlu a digwyddiadau ac arddangosfeydd wedi'u datblygu a'u trefnu ar y cyd.
Rhwng 2014 a 2018, cymerodd y Ganolfan Treftadaeth ran mewn prosiect i gofio'r swyddogion o heddluoedd rhagflaenol Heddlu De Cymru a fu'n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Fel rhan o'r prosiect, lluniwyd cryn dipyn o ddeunydd sydd ar gael ar dudalen prosiect y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gallwch fynd i dudalennau prosiect y Rhyfel Byd Cyntaf drwy'r ddolen ar waelod y dudalen hon.
Yn 2019, chwaraeodd y Ganolfan Treftadaeth ran yn nathliadau Hanner Canmlwyddiant Heddlu De Cymru.
Fel rhan o'r dathliadau, lluniwyd llyfryn a oedd yn adrodd hanes plismona yn ne Cymru. Mae'r prosiect ymchwil yn defnyddio ffynonellau gwreiddiol a ffotograffau o'n casgliadau archif, a gaffaelwyd gyda chymorth Archifau Morgannwg.
Bydd y llyfryn i'w weld ar y tudalennau hyn maes o law.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein prosiectau blaenorol yma: