Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Canolfan Treftadaeth Heddlu De Cymru
Pencadlys Heddlu De Cymru
Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
Peidiwch â defnyddio'r rhif hwn i roi gwybod am drosedd – ffoniwch 101 i roi gwybod am drosedd nad yw'n frys neu 999 mewn argyfwng.
Os hoffech ymholi am ymweld â Chanolfan Treftadaeth Heddlu De Cymru, ewch i'n tudalen Ymweld â Ni.
Mae Canolfan Treftadaeth Heddlu De Cymru yn cyhoeddi cynnwys ar wefannau cyfryngau cymdeithasol corfforaethol Heddlu De Cymru yn rheolaidd. Gallwch ddilyn Heddlu De Cymru ar:
Twitter @HeddluDeCymru
Instagram @swpolice
Peidiwch â defnyddio'r rhif hwn i roi gwybod am drosedd – ffoniwch 101 i roi gwybod am drosedd nad yw'n frys neu 999 mewn argyfwng.
Yn ystyried rhoi eitem tuag at ein casgliad? Darllenwch y canlynol i gael cyngor ar beth i'w wneud.
Mae'r Ganolfan Treftadaeth yn casglu deunyddiau sydd â chysylltiad â hanes Heddlu De Cymru a'i heddluoedd rhagflaenol ym Morgannwg, Caerdydd, Merthyr, Castell-nedd ac Abertawe. Rydym yn hoffi casglu gwrthrychau sydd â hanes diddorol a straeon ac atgofion personol yn gysylltiedig â nhw.
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl am eich gwrthrych – h.y. ei hanes ac unrhyw atgofion neu straeon eraill sy'n gysylltiedig ag ef. Byddem yn ddiolchgar pe gallech ddarparu'r canlynol:
E-bostiwch [email protected] gan roi ‘rhoi gwrthrych / object donation’ yn y llinell pwnc
Unwaith y byddwch wedi cysylltu â ni, bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi ac mae'n bosibl y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth.
Unwaith y gwneir penderfyniad, byddwn yn cysylltu â chi naill ai i dderbyn neu wrthod eich cynnig. Os bydd eich rhodd yn addas ar gyfer ein casgliad, byddwn yn trefnu i gyfarfod â chi i gasglu'r gwrthrych a byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen trosglwyddo teitl, a fydd yn trosglwyddo'r gwrthrych i'n gofal ni yn gyfreithiol.
Noder: Er bod y Ganolfan Treftadaeth yn gwerthfawrogi pob cynnig i gyfrannu gwrthrych at ein casgliad yn fawr, nid yw bob amser yn bosibl i ni dderbyn popeth a gynigir i ni.
Caiff pob eitem ei hystyried yn ofalus mewn perthynas â'n casgliadau presennol.
Ydych chi'n gyn-swyddog yr heddlu neu'n gyn-aelod o staff yr heddlu? Os felly – hoffem glywed gennych chi.
E-bostiwch [email protected] gan roi ‘rhannu stori / story donation’ yn y llinell pwnc.
Archifau Morgannwg yng Nghaerdydd sy'n cadw cofnodion Heddlu De Cymru a'i heddluoedd rhagflaenol ym Morgannwg, Caerdydd a Merthyr. Mae'r Archifau hefyd yn cadw casgliad o ffotograffau a chofnodion llysoedd chwarter hanesyddol yr heddlu. Os hoffech ymholi am gofnodion yr heddlu, cysylltwch ag Archifau Morgannwg drwy'r dulliau canlynol:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2087 2200
Mae Archifau Morgannwg wedi llunio detholiad o ganllawiau ymchwil ar bynciau poblogaidd a chyfres o gofnodion i'ch helpu i ddechrau ar eich ymchwil. Gellir lawrlwytho'r canllaw ar gofnodion yr heddlu yma:
• Canllaw Archifau Morgannwg ar Ymchwilio i Gofnodion yr Heddlu
Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn Abertawe yn cadw cofnodion heddluoedd Bwrdeistref Castell-nedd ac Abertawe. Mae'r Gwasanaeth Archifau hefyd yn cadw cofnodion llysoedd chwarter. Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg drwy'r dulliau canlynol:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01792 636589