Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r camerâu Fideo a Wisgir ar y Corff yn wasanaeth digidol a ddefnyddir gan Heddlu De Cymru er mwyn helpu i ganfod ac atal troseddau a diogelu'r cyhoedd.
Caiff ei ddefnyddio i gofnodi'r holl ddeunydd fideo a allai gael ei ddefnyddio fel tystiolaeth.
Mae'r camerâu Fideo a Wisgir ar y Corff yn cael eu gwisgo gan swyddogion Heddlu De Cymru ar ran uchaf y frest ac yn weladwy i bawb. Mae iddo sgrin sy'n wynebu'r blaen sy'n rhoi persbectif o ddigwyddiad neu leoliad i swyddog wrth adolygu'r deunydd. O'i droi ymlaen mae'r golau yn goch.
Bydd swyddogion yn troi eu camerâu ymlaen ar ddechrau digwyddiad neu gyfarfyddiad, ac mewn amgylchiadau arferol byddant yn dal i recordio oni bai na fydd yn 'gymesur neu'n angenrheidiol' bellach.
Gall y Fideo a Wisgir ar y Corff gael ei ffrydio'n fyw gan roi ymwybyddiaeth o'r sefyllfa mewn amser real er mwyn helpu swyddogion i wneud dewisiadau effeithiol.
Rhaid i bob swyddog ac aelod o'r staff fod wedi cael eu hyfforddi'n llawn cyn defnyddio'r Fideo a Wisgir ar y Corff. Caiff ei ddefnyddio yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a'r canllawiau cenedlaethol ac nid oes angen cydsyniad gan y person/pobl sy'n cael ei/eu ffilmio.
Mae'r camerâu Fideo a Wisgir ar y Corff yn offeryn a gaiff ei wisgo gan yr heddlu a'i ddefnyddio mewn plismona gweithredol i gasglu tystiolaeth ddigidol ac er mwyn:
Caiff camerâu Fideo a Wisgir ar y Corff eu defnyddio i recordio'r ardaloedd a'r bobl angenrheidiol i gael tystiolaeth a chudd-wybodaeth sy'n berthnasol i'r digwyddiad yn unig, yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data a Hawliau Dynol.
Mae dyfeisiadau Fideo a Wisgir ar y Corff fel arfer bob amser yn cael eu pweru ac wedyn yn cael eu troi ymlaen i recordio gan BOB person sy'n bresennol pan all y deunydd fod o gymorth i 'wneud sylw proffesiynol' neu'n ategu cofnodion llyfr nodiadau poced electronig a/neu ddatganiadau.
Fel arfer mae defnyddiwr camera Fideo a Wisgir ar y Corff yn recordio cyfarfyddiadau llawn o'r dechrau i'r diwedd heb darfu ar y recordiad. NI DDYLAI defnyddiwr recordio dyletswydd neu batrôl cyfan yn ddiwahân. Mae'n rhaid i'r recordiadau fideo fod o ddigwyddiadau penodol (p'un a gaiff y recordiad ei ddefnyddio fel tystiolaeth neu beidio yn y pen draw) Penderfyniad defnyddiwr y camera Fideo a Wisgir ar y Corff yw recordio neu i beidio recordio digwyddiad lle caiff unigolyn ei arestio, oni bai iddo gael ei orchymyn gan bolisi. Dylai defnyddwyr recordio digwyddiadau pryd bynnag y byddent yn defnyddio pŵer yr heddlu.
Dyma rai enghreifftiau o pan gaiff y camera Fideo a Wisgir ar y Corff ei ddefnyddio:
Caiff y camerâu Fideo a Wisgir ar y Corff ei ddefnyddio gan Heddlu De Cymru, ei gynhyrchu gan Reveal. Dysgwch fwy am y camerâu ar eu gwefan.