Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi (ACEM) yn asesu heddluoedd a phlismona yn annibynnol ar draws yr holl weithgarwch o dimau cymdogaethau i droseddau difrifol a’r frwydr yn erbyn terfysgaeth – er budd y cyhoedd.
Mae gan ACEM bwerau statudol i archwilio effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd Heddlu De Cymru a llunio adroddiadau ar hynny, fel y nodir yn Adran 54 (2) o Ddeddf yr Heddlu 1996. Bob blwyddyn mae ACEM yn ymgynghori ar raglen archwilio, gan gynnwys amserlen archwilio, ac yn ei chyhoeddi. Mae’r amserlen yn cynnwys yr archwiliadau sy’n rhan o asesiad blynyddol rheolaidd o berfformiad yr heddlu, a elwir yn asesiadau PEEL.
Daw’r enw PEEL o’r geiriau Saesneg police effectiveness, efficiency a legitimacy. Dyma’r rhaglen lle mae ACEM yn casglu tystiolaeth o’i harolygiadau blynyddol o’r holl heddluoedd at ei gilydd. Defnyddir y dystiolaeth er mwyn asesu effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfreithlondeb yr heddlu. Cyflwynodd ACEM yr asesiadau hyn er mwyn i chi allu barnu perfformiad eich heddlu a phlismona yn gyffredinol.
Darllenwch wybodaeth am adroddiadau archwilio ACEM diweddaraf Heddlu De Cymru ac Ystadegau Troseddau Heddlu De Cymru.
Mae’r Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools yn gyfrifol am bennu blaenoriaethau plismona Heddlu De Cymru.
Mae egwyddorion a gwerthoedd a rennir Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabl yn gosod y safon, sef bod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein holl gymunedau.
Mae hynny’n golygu gwrando arnynt, diogelu pobl agored i niwed a gwella boddhad dioddefwyr. Mae’r heriau o’n blaenau yn ein gwneud hyd yn oed yn fwy penderfynol o barhau i ganolbwyntio ar y weledigaeth hon, gyda phwyslais newydd ar ymyrraeth gynnar a chamau gweithredu prydlon a chadarnhaol.
Anelwn at weithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fo ei angen arnynt, ac atal pobl rhag dioddef trosedd neu gyflawni trosedd. Mae ymyrraeth gynnar wrth wraidd creu cymunedau iach, hapus a diogel, gan leihau’r galw ar ein holl wasanaethau cyhoeddus.
Mae ein cyflawniadau hyd yma wedi creu sylfaen gadarn ar gyfer gwaith pellach ond rydym yn cydnabod bod angen i ni geisio gwella ein gwasanaeth ac ymateb yn effeithiol i ofynion newydd o hyd.
Cynllun Heddlu a Throseddu De Cymru 2023-2027 yw’r sail i’n hymateb a bydd yn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gymunedau De Cymru.
Byddwn yn gostwng ac yn atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn cadw pobl yn ddiogel ac yn hyderus yn eu cartrefi a’u cymunedau.
Byddwn yn ddidostur o ran trosedd a’r hyn sy’n ei hachosi, gan fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol drwy ymyrraeth gynnar a chamau gweithredu prydlon a chadarnhaol, partneriaeth a gwerthuso “yr hyn sy’n gweithio”.
Byddwn yn cynnwys ac yn grymuso ein cymunedau, gan weithio gyda phartneriaid o fewn llywodraeth leol, iechyd, tân a Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl.
Rydym yn falch o fyw mewn cymuned amrywiol, mae’n ein gwneud ni yr hyn ydym; byddwn yn parhau i wella mynediad i Heddlu De Cymru, fel bod pobl yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen arnynt. Mae hyn yn cynnwys gwelliant parhaus ym mherfformiad y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus a deall y gofynion ar ein rhif 101 nad yw’n un brys er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael ymateb prydlon a chadarnhaol a bod hyder ganddynt i’n hysbysu.
Byddwn yn gweithio i ddiogelu aelodau mwyaf agored i niwed ein cymunedau, deall achosion a chymryd camau prydlon a chadarnhaol wrth i broblemau godi.
Byddwn yn meithrin ein dealltwriaeth o’r problemau sy’n wynebu ein cymunedau er mwyn darparu’r cymorth sydd ei angen arnynt, gan ddilyn egwyddorion ymyrraeth gynnar a chydweithredu â phartneriaid er mwyn nodi a helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Byddwn yn gweithio i wneud y system cyfiawnder troseddol leol mor effeithiol ac effeithlon â phosibl er mwyn diwallu anghenion dioddefwyr a gostwng aildroseddu. Mae angen i’r System Cyfiawnder Troseddol roi pwyslais clir ar ostwng troseddu gan ganolbwyntio ar atal troseddu ac aildroseddu gan leihau niwed a risg i’r cyhoedd.
Byddwn yn gwneud ein cyfraniad ehangach at blismona drwy’r gofyniad plismona strategol, gan gynnwys plismona digwyddiadau mawr yn llwyddiannus.
Mae’r Gofyniad Plismona Strategol yn nodi bygythiadau cenedlaethol allweddol a’r adnoddau sydd eu hangen i fynd i’r afael â nhw Mae Heddlu De Cymru yn heddlu strategol allweddol a bydd yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol at ddigwyddiadau cenedlaethol (er enghraifft terfysgoedd Llundain yn 2011) a digwyddiadau rhyngwladol allweddol.
Byddwn yn gwario eich arian yn ddoeth ac yn cefnogi ein pobl er mwyn darparu’r gwasanaeth plismona gorau posibl yn eich cymuned.
Gwnaethom brofi toriadau difrifol i Grant yr Heddlu gan Lywodraeth Ganolog. Mae hynny’n golygu bod penderfyniadau anodd yn anochel, ond hyd yn oed ar adeg anodd fel hon rydym yn cadw ein hymrwymiad i ddiogelu Plismona yn y Gymdogaeth yn Ne Cymru a gweithio’n effeithiol gyda phartneriaid er mwyn gwneud ein cymunedau’n ddiogel. Dangosir hyn drwy ddadansoddiad sy’n dangos ein bod wedi cyflawni bron £0.5 biliwn o fudd cymdeithasol ac economaidd yn ein cymunedau ers 2011. Cyflwynir adnoddau’n lleol ac yn strategol gyda gwasanaethau effeithiol ac effeithlon sy’n canolbwyntio ar angen.
Mae’r cynllun yn nodi nid yn unig y blaenoriaethau i’w datblygu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ond hefyd y gweithgarwch gweithredol i’w gyflawni mewn ymateb I flaenoriaethau o’r fath sy’n dod o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y Prif Gwnstabl.