Sut i gysylltu â Heddlu De Cymru
- Yma yn Heddlu De Cymru, hoffem sicrhau bod gan ein cymunedau yr hyder i gysylltu â ni os oes ganddynt unrhyw bryderon.
- Rydym wedi gwella'r nifer o ffyrdd y gallwch gysylltu â Heddlu De Cymru os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw neu os oes gennych drafferthion â’ch lleferydd.
- Byddaf yn amlinellu'r gwahanol ffyrdd y gallwch gysylltu â'r heddlu, boed mewn argyfwng neu mewn achos nad yw'n un brys.
- Rydym wedi gwella'r nifer o ffyrdd y gallwch gysylltu â Heddlu De Cymru os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw neu os oes gennych drafferthion â’ch lleferydd.
- Mae'r ffyrdd o gysylltu â ni yn dibynnu ar b'un a yw'n argyfwng ai peidio, lle mae angen cymorth arnoch ar unwaith.
Mewn argyfwng
- Anfonwch neges destun i 999 yn cynnwys y wybodaeth sylfaenol i egluro pam fod angen yr Heddlu arnoch, ble rydych chi a beth sy'n digwydd.
- Bydd cynorthwyydd o wasanaeth Relay UK (BT) yn darllen eich neges destun SMS i'r cynghorydd 999 a chaiff ei ymateb ei anfon yn ôl atoch drwy neges destun SMS.
- Os byddwch yn anfon neges destun SMS arall, bydd y cynorthwyydd Relay yn ei ddarllen i'r cynghorydd 999 ac yn anfon ei ymateb yn ôl atoch.
- Cynlluniwyd y gwasanaeth cenedlaethol hwn yn benodol ar gyfer unigolion sy'n ddall, yn drwm eu clyw neu sydd â thrafferthion â’u lleferydd.
- Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau y dylid rhoi gwybod amdanynt ar unwaith drwy ddefnyddio'r system neges destun SMS 999 frys hon yn cynnwys pan fydd bywyd rhywun mewn perygl, pan fydd trosedd yn digwydd, a phan fydd pryderon am ddiogelwch rhywun.
- Mae'n bwysig eich bod yn dod yn ddefnyddiwr cofrestredig. Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn drwy decstio ‘cofrestru’ i 999. Byddwch yn derbyn neges destun gyda rhagor o gyfarwyddiadau. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru, ewch i www.emergencysms.org.uk
Mewn achosion nad ydynt yn rhai brys
- Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth 101 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys drwy ddefnyddio minicom, a ffonio 01656 656980 neu 18001 101
- Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth 101 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys drwy ddefnyddio Relay UK – www.relayuk.bt.com – lawrlwythwch yr ap. Mae'n syml i'w ddefnyddio - mae Relay UK yn helpu pobl fyddar â nam ar eu lleferydd a'u clyw i siarad â'i gilydd dros y ffôn gan ddefnyddio'r gwasanaeth Relay. Mae person sy'n fyddar neu sydd â nam ar ei leferydd yn teipio, mae'r cynorthwyydd Relay yn siarad, mae'r person sy'n clywed yn gwrando yn Heddlu De Cymru, mae'r person sy'n gwrando yn siarad, mae'r cynorthwyydd Relay yn teipio, mae'r person sy'n fyddar neu sydd â nam ar ei leferydd yn darllen.
- Os byddwch am gysylltu â Heddlu De Cymru drwy e-bost ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys, e-bostiwch [email protected] (caiff ei fonitro 24 awr y dydd).
- Croesewir gohebiaeth drwy'r post ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys. Dylid cyfeirio unrhyw ohebiaeth i: Pencadlys Heddlu De Cymru, Heol y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU.