Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwybodaeth isod am sut mae gwneud cais am dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron, neu adnewyddu un. Boed chi’n berchennog arf tanio, yn ddeliwr drylliau, yn aelod o glwb saethu neu’n bwriadu teithio ag arfau tanio, atebwch ychydig o gwestiynau cyflym ac fe wnawn ni eich cyfeirio at y ffurflen gywir, a phopeth sydd ei angen arnoch i’w llenwi.
Ychwanegu man busnes parhaol at dystysgrif deliwr gyfredol
Cam 1: Lawrlwythwch a llenwi’r ffurflen gofrestru ar gyfer deliwr arfau tanio (Ffurflen 116).
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cam 2: Postiwch eich ffurflen wedi’i llenwi a’ch siec (yn daladwy i Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru) i:
Adran Trwyddedu Arfau Tanio a Ffrwydron
Pencadlys Heddlu De Cymru
Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
£13 yw’r gost.
Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich cais neu fod angen i ni ofyn am fwy o wybodaeth.
Fel arall, byddwn yn cysylltu â chi cyn pen chwe wythnos.