Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwybodaeth isod am sut mae gwneud cais am dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron, neu adnewyddu un. Boed chi’n berchennog arf tanio, yn ddeliwr drylliau, yn aelod o glwb saethu neu’n bwriadu teithio ag arfau tanio, atebwch ychydig o gwestiynau cyflym ac fe wnawn ni eich cyfeirio at y ffurflen gywir, a phopeth sydd ei angen arnoch i’w llenwi.
Gwneud cais am dystysgrif i deithio ag arf tanio o’r DU i wlad yn yr UE
Ni allwch mwyach ddefnyddio Trwydded Arfau Tanio Ewropeaidd (EFP) sydd gennych yn barod i deithio i’r UE gyda’ch arf tanio neu ddryll. Yn hytrach, dylech wirio gofynion trwyddedu’r wlad yn yr UE yr ydych yn teithio iddi neu drwyddi, cyn teithio.
Cysylltwch â llysgenhadaeth, swyddfa prif gonswl neu uchel gomisiwn Prydain yn y wlad honno. Gallant eich cynghori ynglŷn â’r camau sydd angen eu cymryd.
Trafodwch hefyd gyda’ch cwmni hedfan a chwmni teithio er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â’u gofynion diogelwch.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Arfau Tanio Ewropeaidd