Mae gwybodaeth isod am sut mae gwneud cais am dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron, neu adnewyddu un. Boed chi’n berchennog arf tanio, yn ddeliwr drylliau, yn aelod o glwb saethu neu’n bwriadu teithio ag arfau tanio, atebwch ychydig o gwestiynau cyflym ac fe wnawn ni eich cyfeirio at y ffurflen gywir, a phopeth sydd ei angen arnoch i’w llenwi.

Offeryn cyngor

Ychwanegu man busnes at dystysgrif deliwr gyfredol

Sut mae gwneud cais?

Cam 1: Lawrlwythwch a llenwi’r ffurflen Hysbysiad gan Ddeliwr Arfau Tanio Cofrestredig am Fan Busnes Nad yw wedi’i Gynnwys ar y Ffurflen Gofrestru yn Barod (Ffurflen 116A).

Bydd angen y manylion canlynol arnoch:

  • rhif eich tystysgrif gyfredol
  • cyfeiriad y busnes newydd

Cam 2: Postiwch y ffurflen wedi'i llenwi i:

Adran Trwyddedu Arfau Tanio a Ffrwydron
Pencadlys Heddlu De Cymru
Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU

Beth yw’r gost?

Does dim rhaid talu i wneud cais.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi wneud cais?

Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich cais neu fod angen i ni ofyn am fwy o wybodaeth.

Fel arall, byddwn yn cysylltu â chi cyn pen chwe wythnos.