Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi'n wladolyn tramor, efallai y bydd angen ichi gofrestru gyda ni yn fuan ar ôl cyrraedd. Os felly, dylai hyn fod wedi’i ysgrifennu ar vignette eich fisa fynediad (tudalen ychwanegol wedi’i gludo yn eich pasbort), eich trwydded breswylio fiometrig (BRP) neu’ch llythyr gan y Swyddfa Gartref yn cymeradwyo’ch cais am ganiatâd.
Dysgwch ragor isod ynghylch pwy sydd angen cofrestru gyda ni, pwy sydd wedi'u hesemptio a sut i gael tystysgrif cofrestru'r heddlu (PRC).
Os na fyddwch yn cofrestru gyda'r heddlu pan fo'n ofynnol ichi wneud hynny, mae hynny'n drosedd o dan Adran 26(1)(f) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (dolen allanol). Gallech gael dirwy o hyd at £5,000 a/neu eich carcharu am chwe mis.
Gallai hyn effeithio hefyd ar eich cais presennol neu unrhyw gais pellach am gael aros yn y Deyrnas Unedig.
Os oes angen ichi gofrestru gyda'r heddlu ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig, dylai hynny fod wedi’i ysgrifennu ar vignette eich fisa fynediad, eich trwydded breswylio fiometrig neu’ch llythyr gan y Swyddfa Gartref yn cymeradwyo’ch cais am ganiatâd. Allwn ni mo’ch cofrestru os nad oes gennych ofyniad ysgrifenedig mewn un o'r dogfennau hyn.
Bydd angen ichi gofrestru gyda ni os ydych yn 16 neu'n hŷn, ac yn dod o un o'r gwledydd hyn:
Affganistan | Ciwba | Libia | Syria |
Algeria | Yr Aifft | Moldofa | Tajikistan |
Yr Ariannin | Georgia | Moroco | Tiwnisia |
Armenia | Iran | Gogledd Corea | Twrci |
Azerbaijan | Irac | Oman | Turkmenistan |
Bahrain | Israel | Palesteina | Emiradau Arabaidd Unedig |
Belarws | Yr Iorddonen | Periw | Wcráin |
Bolifia | Kazakhstan | Qatar | Uzbekistan |
Brasil | Coweit | Rwsia | Yemen |
Tsieina* | Kyrgyzstan | Saudi Arabia | |
Columbia | Libanus | Y Swdan |
*Sylwch: Bernir mai gwladolyn Tsieineaidd yw rhywun sydd â phasbort a roddwyd gan Ranbarth Gweinyddol Arbennig naill ai Hong Kong neu Macao ac mae angen iddo gofrestru.
Mae rhai fisas 30 diwrnod yn gofyn ichi gofrestru gyda'r heddlu.
Os felly, fe fydd hynny wedi’i ysgrifennu ar y fisa. Fe allai ddweud:
Cofiwch wirio i fod yn siŵr.
Os ydych yn symud i Dde Cymru am y tro cyntaf ac wedi cofrestru gyda heddlu arall yn y DU, mae angen i chi nawr gofrestru gyda ni.
Os ydych yn symud i fyw mewn ardal arall yn y DU, rhaid i chi adrodd am newid yn eich amgylchiadau wrth yr heddlu lleol o fewn saith diwrnod. Cysylltwch â’r heddlu yno neu defnyddiwch ei wefan.
Os oes gennych genedligrwydd deuol gydag un wlad yn y rhestr uchod ac un wlad arall, does dim angen ichi gofrestru gyda'r heddlu.
Yn yr un modd, does dim angen ichi gofrestru os oes gennych ganiatâd i fyw'n barhaol yn y Deyrnas Unedig, os ydych yn aelod o deulu un o ddinasyddion yr AEE, neu'n ymweld ar fisa dros dro fel un o'r canlynol:
Os oes unrhyw un neu ragor o'r uchod yn gymwys i chi a'ch bod wedi cael gofyniad i gofrestru gyda'r heddlu, gall hyn fod yn gamgymeriad. Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gartref (dolen allanol) i holi am y gofyniad a roddodd i chi.
Mae tystysgrif cofrestru'r heddlu (PRC) yn ddogfen sy'n profi eich bod wedi cydymffurfio â’r gofyniad yn eich fisa. Byddwn yn rhoi un i chi ar ddiwedd eich proses gofrestru.
Gall eich PRC gael ei dderbyn fel prawf adnabod yn y Deyrnas Unedig. Er hynny, dydyn ni ddim yn argymell eich bod yn ei chario gyda chi. Cadwch hi mewn lle diogel gyda'ch pasbort a'ch dogfennau teithio.
Os bydd swyddog heddlu yn gofyn ichi ddangos eich PRC, bydd gennych 48 awr wedyn i ddangos eich PRC mewn unrhyw orsaf heddlu.