Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych wedi dioddef achos o drais neu ymosodiad rhywiol, gallai fod nifer o ffyrdd y gallwch ei riportio wrth yr heddlu. Rydym yn deall y gall hyn fod yn anodd. Efallai na fyddwch yn hollol siŵr beth ddigwyddodd neu sut i siarad amdano. Mae ein swyddogion hyfforddedig a sefydliadau partner yma i wrando a gweithio gyda’i gilydd i’ch cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn. Yn bwysig, gallai eich gwybodaeth ein helpu i ddwyn y troseddwr gerbron llys a gwneud yn siŵr eich bod chi, a phobl mewn sefyllfa debyg, yn cael eich cadw’n ddiogel.
A oes rhywun mewn perygl ar hyn o bryd? A oes trosedd yn cael ei chyflawni neu a oes un newydd ddigwydd? Os felly, ffoniwch 999 nawr a gofynnwch am yr heddlu. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu tecstiwch ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Os byddai’n well gennych riportio ar-lein, yn hytrach na siarad gyda swyddog dros y ffôn yn y man cyntaf, gallwch riportio trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol wrthym ar-lein, sy’n ddiogel a chyfrinachol.
Gallwch riportio trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol wrthym ar-lein
Os hoffech siarad gyda rhywun, mae ein rhif ffôn difrys cenedlaethol yn cael ei staffio 24/7. Ffoniwch ni ar 101 a riportio’r hyn sydd wedi digwydd neu dim ond i gael ychydig o gyngor.
Os hoffech siarad â swyddog yn bersonol, gallwn ddarparu amgylchedd diogel a chyffyrddus yn unrhyw un o'n gorsafoedd heddlu.
Os nad ydych chi’n awyddus i fynd at yr heddlu, fe allech chi fynd i'ch canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) leol.
Gall y staff yno, sydd wedi’u hyfforddi, roi cymorth a chyngor meddygol cyfrinachol ichi. Gallant hefyd gasglu tystiolaeth i chi ei defnyddio wedyn, os penderfynwch chi riportio’r ymosodiad i'r heddlu. Wnân nhw ddim cysylltu â'r heddlu oni bai eich bod chi eisiau iddyn nhw wneud.
Tystiolaeth
Os yw'r ymosodiad newydd ddigwydd, efallai y byddwch am olchi holl olion eich ymosodwr i ffwrdd – mae hyn yn reddf naturiol. Ond cyn ichi wneud hyn, arhoswch. Fe allai'r olion hyn, sy’n cael eu galw’n dystiolaeth fforensig, helpu'r heddlu i brofi bod y sawl a ymosododd arnoch wedi bod yn rhan o’r ymosodiad.
I gadw tystiolaeth fforensig:
Ar ôl i staff y SARC gasglu'r dystiolaeth, fe gewch chi fwyta, yfed a chael cawod. Er bod y dystiolaeth ganddyn nhw, does dim rhaid ichi riportio’r drosedd os nad ydych chi’n awyddus.
Os oes rhywun yr ydych chi’n ei adnabod wedi dioddef achos o drais neu ymosodiad rhywiol, ac nid yw’n teimlo y gall siarad â’r heddlu ar hyn o bryd, riportiwch yr achos eich hun gan ddefnyddio unrhyw rai o’r dulliau uchod. Byddwn yn cofnodi’r digwyddiad ac yn cynorthwyo i gefnogi’r dioddefwr os bydd angen.
Mae gwybodaeth a ddarperir yn ddienw drwy Crimestoppers yn werthfawr dros ben er mwyn ein cynorthwyo i gynllunio sut rydym yn plismona pob ardal.
Gallwch gysylltu â’r elusen drwy ei gwefan neu drwy ffonio 0800 555 111.
Rydym yn deall nad ydych efallai’n barod i siarad gyda ni ynglŷn â beth ddigwyddodd. Gall yr elusennau, grwpiau a sefydliadau ar y dudalen sefydliadau cefnogi gynnig cefnogaeth, cyngor a ffyrdd i riportio’r digwyddiad heb orfod siarad yn uniongyrchol â’r heddlu.