Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae trais neu ymosodiad rhywiol yn drosedd ddifrifol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth isod am drais ac ymosodiad rhywiol, yr hyn sy’n gyfystyr â chydsyniad, a rhai o’r mythau cyffredin yn ymwneud â thrais rhywiol, ymosodiad rhywiol a riportio’r troseddau hyn.
Mae pob achos o drais ac ymosodiad rhywiol yn ddifrifol. Defnyddir y termau trais rhywiol ac 'ymosodiad rhywiol' yn syml i wahaniaethu rhwng dwy fath o drosedd. Felly, beth yw’r gwahaniaeth?
Diffiniad cyfreithiol o drais rhywiol yw pan fydd person yn treiddio gwain, anws neu geg rhywun arall yn fwriadol gyda phidyn, heb gydsyniad y person arall. Ymosodiad drwy dreiddio yw pan fydd person yn treiddio gwain neu anws unigolyn gydag unrhyw ran o’r corff heblaw am bidyn, neu drwy ddefnyddio gwrthrych, heb gydsyniad y person arall.
Y diffiniad cyffredinol o ymosodiad rhywiol neu anweddus yw gweithred o ymyriad corfforol, seicolegol ac emosiynol ar ffurf gweithred rywiol, a weithredir ar rywun heb eu cydsyniad. Gall gynnwys gorfodi neu ddylanwadu ar rywun i fod yn dyst i neu gymryd rhan mewn unrhyw weithred rywiol.
Nid yw pob achos o ymosodiad rhywiol yn cynnwys trais, yn achosi anaf corfforol neu’n gadael marciau y gellir eu gweld. Gall ymosodiad rhywiol achosi trallod difrifol, niwed emosiynol ac anafiadau na ellir eu gweld – y gall pob un ohonynt gymryd amser hir i adfer ohonynt. Dyna pam ein bod yn defnyddio’r gair ‘ymosodiad’, ac yn trin adroddiadau yr un mor ddifrifol ag ymosodiadau corfforol treisgar.
Beth sy’n gwahaniaethu rhwng rhyw, neu arwydd o gariad, ag ymosodiad rhywiol? Cydsyniad. Hynny yw, y ddau berson yn cytuno i’r hyn sy’n digwydd yn ôl dewis, a chael y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw. Gweler Cydsyniad yw'r Cyfan a Cymorth i ddioddefwyr achosion o drais ac ymosodiad rhywiol i gael rhagor o gyngor a gwybodaeth.
Mae cydsyniad yn wahanol yn achos plant. Yn y Deyrnas Unedig, 16 oed yw oedran cydsynio (yr oedran cyfreithiol pan gaiff pobl gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol). Mae'r gyfraith yno i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin neu eu hecsbloetio, yn hytrach nag er mwyn erlyn plant dan 16 oed sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol y mae pawb wedi cytuno iddo.
Mae'r gyfraith yn dweud na all unrhyw un dan 13 oed byth roi cydsyniad cyfreithiol i unrhyw fath o weithgaredd rhywiol.
Mae'r gyfraith yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i bobl ifanc sydd dros oedran cydsynio, ond o dan 18 oed.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am oedran cydsynio ar wefan yr NSPCC.
Credir yn eang bod y troseddwr yn y rhan fwyaf o achosion o drais rhywiol yn ddieithryn. Y gwir yw bod y mwyafrif o bobl sy’n cyflawni trais rhywiol yn adnabod eu dioddefwyr ac, mewn rhai achosion, maent yn berthnasau, ffrindiau neu’n gydweithwyr iddynt.
Gall achosion o drais rhywiol hefyd ddigwydd o fewn priodas a pherthynas. Cofiwch, mae rhyw yn ymwneud â chydsyniad. Os yw eich partner wedi’ch gorfodi i gael rhyw, mae hynny’n cyfateb i dreisio. Rydym yn trin hyn yr un mor ddifrifol ag unrhyw achos o drais neu ymosodiad rhywiol arall.
Er mwyn dysgu rhagor am fythau’n ymwneud â thrais rhywiol, darllenwch ganllawiau GEG ar drais ac ymosodiad rhywiol.
Weithiau bydd pobl ofn siarad â’r heddlu oherwydd eu bod wedi bod yn cymryd cyffuriau neu’n yfed alcohol yn wirfoddol cyn i’r drosedd ddigwydd. Weithiau nid oes ganddynt fawr ddim neu ddim cof o gwbl o’r hyn sydd wedi digwydd. Efallai bod ganddynt hanes o droseddu, a’u bod yn poeni na fydd yr awdurdodau yn eu trin yn deg. Efallai eu bod yn poeni na fydd unrhyw un yn eu credu.
Cofiwch, waeth pwy ydych chi, pa mor bell yn ôl y digwyddodd yr ymosodiad neu beth ddigwyddodd, ein prif nod yw rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Byddwn yn gwrando, yn deall ac yn eich arwain drwy broses yr ymchwiliad ar gyflymder sy’n gyfforddus i chi, tra’n parchu eich dymuniadau.