Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyn ichi ddechrau’ch cais am dystysgrif arf tanio, darllenwch drwy rai o'r pynciau y bydd pobl yn ein holi amdanyn nhw amlaf, o’r mathau o dystysgrif i gludo arfau tanio. Os ydych yn barod i ddechrau’ch cais, ewch i Sut i wneud cais am dystysgrif arf tanio neu dystysgrif dryll.
I wybod pa dystysgrif sydd arnoch ei hangen, edrychwch ar y tabl isod i weld sut mae priodweddau’r gwn, ac nid ei enw, yn diffinio'r dystysgrif.
Y math o wn | Priodweddau | Tystysgrif arf tanio | Tystysgrif dryll |
Arf tanio | Baril rhigoledig, yn saethu bwledi neu getris |
✓ | |
Dryll neu fysged | Baril llyfn, yn saethu cetris neu getris gwag |
✓ | |
Dryll aml-ergyd | Yn gallu dal mwy na thair cetrisen |
✓ | |
Reiffl aer | Egni cinetig o fwy na 12 troedfedd y pwys |
✓ |
Mae yna amgylchiadau lle cewch saethu heb dystysgrif.
Rhagor o wybodaeth am gyfraith trwyddedu arfau tanio yn y Deyrnas Unedig.
I gael gwybodaeth gynhwysfawr am storio a chludo arfau tanio a drylliau, rydym yn argymell Firearms security: a brief guide a Firearms security handbook gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn ôl y gyfraith, rhaid ichi gael tystysgrif er mwyn caffael, cadw, trosglwyddo, storio neu weithgynhyrchu ffrwydron. Rydym yn rhoi tystysgrifau ffrwydron yn unol â Rheoliadau Ffrwydron 2014 (ER2014).
Os ydych yn bwriadu storio mwy na 2000kg o ffrwydron, cysylltwch â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).
Mae dau fath o dystysgrif ffrwydron ar gael. Mae tystysgrif caffael yn unig yn awdurdodi'r deiliad i gaffael a defnyddio swm dynodedig o ffrwydron ar y diwrnod hwnnw yn unig. Rhaid i unrhyw ffrwydron sydd heb eu defnyddio naill ai cael eu dychwelyd i'r cyflenwr neu eu dinistrio mewn modd addas.
Mae tystysgrif caffael a chadw yn awdurdodi'r deiliad i storio swm cymeradwy o ffrwydron mewn man penodedig. Bydd yr uchafswm a gymeradwyir yn dibynnu ar y math o ffrwydron a’r cyfleuster storio sydd ar gael.
Mae pob cais yn mynd drwy wiriadau safonol yr heddlu a bydd swyddog ymholiadau arfau tanio (FEO) yn cyf-weld â’r ymgeiswyr gartref. Mae pob cais yn cael ei asesu’n unigol.
Mae unigolyn sydd wedi cael dedfryd gohiriedig (ar ôl Gorffennaf 2014), neu ddedfryd o garchar, cadwad neu hyfforddiant cywiro, am gyfnod rhwng tri mis a thair blynedd wedi’i wahardd rhag meddu ar arfau tanio a bwledi neu getris am gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad ei ryddhau neu o ddyddiad y ddedfryd yn achos dedfrydau gohiriedig.
Mae unigolyn sydd wedi cael dedfryd gohiriedig (ar ôl Gorffennaf 2014), neu ddedfryd o garchar, cadwad neu hyfforddiant cywiro, am gyfnod o dair blynedd neu fwy wedi’i wahardd am oes rhag cael unrhyw arf tanio, gan gynnwys arfau aer, neu fwledi neu getris yn ei feddiant.
Mae'n drosedd gwerthu neu drosglwyddo arf tanio, dryll, neu fwledi neu getris i berson y mae gennych sail dros gredu y gall fod wedi’i wahardd.
O dan adran 17 o Ddeddf Arfau Tanio (Diwygio) 1988, mae ymwelydd â Phrydain Fawr, os rhoddwyd 'trwydded ymwelydd' iddo, yn cael meddu ar arfau tanio, drylliau a bwledi neu getris heb ddal tystysgrif arf tanio neu dystysgrif dryll y Deyrnas Unedig.
Mae trwydded ymwelydd yn caniatáu i breswylydd tramor deithio i'r Deyrnas Unedig i fynd i ddigwyddiadau saethu amrywiol. Bydd ar yr ymwelydd angen noddwr sy'n preswylio yn y Deyrnas Unedig. Does dim angen i'r person hwn fod yn ddeiliad tystysgrif.
Gall trwydded fod yn ddilys am hyd at ddeuddeng mis, ond bydd y dilysrwydd fel arfer yn gysylltiedig â hyd yr ymweliad arfaethedig.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am drwydded ymwelydd, ewch i Sut i wneud cais am dystysgrif arf tanio neu dystysgrif dryll.
Os oes gennych dystysgrif arf tanio, tystysgrif dryll neu dystysgrif ffrwydron a’ch bod yn symud i gyfeiriad parhaol newydd, rhaid ichi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl. Defnyddiwch ein ffurflen newid cyfeiriad ar-lein a gofalwch roi gwybod inni am y canlynol:
Os oes gennych ragor o gwestiynau am dystysgrifau arfau tanio cliciwch ar 'Dechrau’ isod i lenwi’n ffurflen ar-lein gyflym a syml.
Sylwch: allwn ni ddim ateb cwestiynau ynghylch derbyn ceisiadau neu bostio tystysgrifau neu waith gweinyddol arall.