Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn defnyddio technoleg ANPR (Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig) i helpu i ganfod, atal ac amharu ar weithgarwch troseddol ar lefel leol, lefel yr heddlu unigol, lefel ranbarthol a lefel genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys troseddwyr teithiol (y rhai sy'n defnyddio'r rhwydwaith ffyrdd i osgoi cael eu dal), grwpiau troseddu trefnedig a therfysgwyr.
Mae ANPR yn darparu trywyddau ymholi a thystiolaeth wrth ymchwilio i droseddau ac mae’n cael ei defnyddio gan heddluoedd ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Wrth i gerbyd basio camera ANPR, mae ei rif cofrestru yn cael ei ddarllen a'i wirio ar unwaith yn erbyn cofnodion y gronfa ddata o gerbydau o ddiddordeb.
Gall swyddogion heddlu stopio cerbyd, siarad â'r meddianwyr a, lle bo angen, arestio.
Mae ANPR wedi bod yn bwysig wrth ddatrys llawer o droseddau, gan gynnwys, er enghraifft, dod o hyd i bobl i’w harestio neu bobl ar goll, tystion, cerbydau wedi'u dwyn, cerbydau heb yswiriant a datgelu troseddau mawr.
Mae cofnod ar gyfer pob cerbyd sy'n mynd heibio i gamera yn cael ei gadw, gan gynnwys cofnodion ar gyfer cerbydau nad yw'n hysbys eu bod o ddiddordeb adeg eu darllen.
Ar hyn o bryd, mae camerâu ANPR yn genedlaethol yn cyflwyno tua 60 miliwn o gofnodion 'darllen' ANPR ar gyfartaledd i systemau ANPR cenedlaethol bob dydd.
Mae data ANPR o bob heddlu yn cael ei gadw ynghyd â data tebyg oddi wrth heddluoedd eraill am flwyddyn.
Mae gan y Safonau ANPR Cenedlaethol ar gyfer Plismona a Gorfodi’r Gyfraith (NASPLE) a’r Safonau Cydymffurfio ac Archwilio Cenedlaethol ar gyfer ANPR i Orfodi'r Gyfraith (Safonau Archwilio) reolau clir i reoli mynediad at ddata ANPR i sicrhau bod unrhyw un sy'n gwneud hynny yn gwneud hynny at ddibenion ymchwilio swyddogol yn unig.
Dim ond os yw'n berthnasol i'w rôl y caiff staff weld y data. Dim ond am uchafswm o 90 diwrnod o'r dyddiad y cafodd ei gasglu y gall y mwyafrif o'r rhai sydd â chaniatâd weld y data.
O ran ymchwiliadau difrifol neu fawr neu ymchwiliadau gwrthderfysgaeth, gellir rhoi mynediad i ddata i rai staff am hyd at flwyddyn, cyhyd â’u bod wedi cael eu hawdurdodi gan uwch swyddog.
Gall chwiliadau o ddata’r ANPR adnabod cerbydau sy'n gysylltiedig â throseddau a therfysgaeth a gallant gyflymu ymchwiliadau'n ddramatig.
Yn ogystal â bod mewn cerbydau heddlu, mae camerâu ANPR yn cael eu defnyddio mewn mannau gosod. Yn unol â’r polisi cenedlaethol, dydyn ni ddim yn datgelu manylion y lleoliadau hyn gan fod yr wybodaeth yn debygol o fod o fudd i droseddwyr ac am y gallai leihau gwerth ANPR.
Os ydyn ni am osod mwy o gamerâu ANPR, mae’r canllawiau cenedlaethol yn dweud bod rhaid inni wneud asesiad sy'n dangos angen clir, gan gymryd y ffactorau a ganlyn i ystyriaeth:
Wrth asesu a ddylai camerâu newydd gael eu gosod, rydym yn cynnal Asesiad o'r Effaith ar Breifatrwydd Data (AEBD). Rydym yn ymgynghori â phobl a sefydliadau sydd â buddiant rhesymol yn y cynnig, oni bai y byddai hynny’n mynd yn groes i ddiben y datblygiad sef canfod, atal ac amharu ar droseddau.
Rydym wedi ymrwymo i adolygu lleoliad camerâu ANPR yn gyson er mwyn sicrhau bod yna gyfiawnhad o hyd dros eu defnyddio. Bydd pob adolygiad yn ystyried yr effeithiau ar breifatrwydd.
Clonio cerbyd yw pan fydd troseddwr yn rhoi rhif cofrestru eich cerbyd chi ar gerbyd arall er mwyn cuddio gwir rif cofrestru’r cerbyd hwnnw. Gwneir hyn er mwyn cyflawni gweithgarwch troseddol neu er mwyn osgoi cosb e.e. tocynnau am oryrru, dirwyon parcio, taliadau toll neu daliadau atal tagfeydd.
Os ydych wedi derbyn tocyn yr ydych yn amau i chi ei gael oherwydd bod eich cerbyd wedi’i glonio, riportiwch hynny.
Dylech hefyd hysbysu’r DVLA.
Yna gallwch gysylltu â’r sefydliad a roddodd y ddirwy, esbonio bod eich cerbyd wedi cael ei glonio a gwneud cais i’w chanslo. Dywedwch wrthynt fod y DVLA a’r heddlu wedi cael eu hysbysu ac anfonwch dystiolaeth i gefnogi hynny os yw ar gael, megis rhif cyfeirnod trosedd a roddwyd gan yr heddlu.
Mae yna reolau ynglŷn ag arddangos platiau rhifau ceir. Gallwch gael dirwy am beidio ag arddangos eich plât rhif yn gywir.
Os ydych yn defnyddio platiau rhif sy’n anghyfreithlon neu nad sy’n cydymffurfio, rhaid i chi eu newid. Dewch o hyd i’ch cyflenwr platiau rhifau ceir agosaf.
I gael rhagor o wybodaeth am rifau a phlatiau, a’r cyfreithiau sy’n ymwneud â nhw, gweler:
Mae'r hysbysiad hwn yn nodi hawliau testunau data o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 ynghylch data sy’n cael ei gadw ar y Gwasanaeth ANPR Cenedlaethol.
Mae’r Strategaeth ANPR yn nodi sut mae ANPR yn cael ei datblygu a’i rheoli gan yr heddluoedd.
Gallwch gael gwybodaeth am ANPR a ryddhawyd o dan y cynllun cyhoeddi a cheisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn ein hadran Rhyddid Gwybodaeth.