Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth yw seiberfflachio |
2. Beth gallwch chi ei wneud: riportio'r peth i ni |
3. Riportio i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol os digwyddodd y peth ar-lein |
4. Help a chymorth |
Seiberfflachio yw pan fydd rhywun yn anfon llun atoch chi o organau rhywiol heb eich caniatâd. Weithiau maen nhw’n cael eu galw’n 'pidluniau' neu 'fflachio'. Mae'n anghyfreithlon gwneud hyn.
Efallai y byddan nhw'n gwneud hyn i beri gofid ichi neu i godi embaras. Efallai hefyd eu bod nhw’n gwneud hyn o ran eu pleser rhywiol eu hunain heb boeni sut mae'n gwneud i chithau deimlo.
Does dim ots ydy'r llun yn dangos organau cenhedlu go iawn yr unigolyn, neu wedi'i gynhyrchu gan gyfrifiadur i edrych fel organau cenhedlu rhywun.
Gall seiberfflachio ddigwydd i unrhyw un. nid eich bai chi yw e byth: nid chi sydd ar fai. Mae'n digwydd ar-lein ac all-lein.
Dyma rai enghreifftiau o seiberfflachio:
Os bydd rhywun yn dangos ei organau rhywiol yn bersonol yn fwriadol i'ch dychryn neu i beri gofid ichi, yr enw ar hyn yw dinoethiad anweddus. Gallwch riportio hyn i ni hefyd.
Os byddwch chi'n dioddef seiberfflachio, fe allech chi deimlo pryder, ofn, diffyg ymddiriedaeth a fel pe bai rhywun wedi’ch treisio chi. Neu mae’n bosibl na fyddwch chi’n teimlo braw neu ofid o gwbl. Does dim ffordd gywir neu anghywir o deimlo, ac rydyn ni’n deall hynny. Mae help a chymorth ar gael ichi sut bynnag rydych chi'n teimlo.
Rydyn ni bob amser yn cymryd seiberfflachio o ddifrif ac yn deall ei bod yn cymryd dewrder i siarad â ni.
Gall pobl sy'n seiberfflachio fynd ymlaen i gyflawni troseddau mwy difrifol. Gallai’ch adroddiad chi atal hyn rhag digwydd.