Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
Mae help a chymorth ar gael os ydych chi wedi dioddef camdriniaeth drwy ddelweddau personol neu 'pornograffi dial' neu os ydych yn ffrind, yn ofalwr neu’n rhiant i rywun sydd wedi dioddef.
Os byddwch chi’n riportio beth sydd wedi digwydd i'r heddlu, byddwn ni’n gofyn ichi ddweud a hoffech chi gael eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliad cymorth.
Darllenwch: Beth i'w ddisgwyl fel dioddefwr neu dyst i drosedd
Os nad ydych chi eisiau riportio i'r heddlu rydych chi’n dal yn gallu cael cymorth gan yr un sefydliadau.
Darllenwch: Cymorth i ddioddefwyr a thystion
Llinell Gymorth Pornograffi Dial
Cyngor a gwybodaeth os byddwch chi'n profi pornograffi dial a help i gael gwared ar ddelweddau.
0345 6000 459
Yn agored rhwng 10am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gallwch gysylltu â nhw yn ddienw hefyd i ddechrau drwy ddefnyddio’u Hadroddiad Sibrwd.
Mae gwasanaeth Llinell Gymorth Pornograffi Dial ar gyfer oedolion (18 oed neu drosodd) yn unig.
Mae StopNCII.org yn helpu oedolion i gael gwared ar ddelweddau personol sydd wedi’u rhannu heb eu caniatâd ar-lein.
Cyngor i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr ar gadw'n ddiogel ar-lein a delio â niwed ar-lein
Cymorth arbenigol am ddim i ddioddefwyr seiberdroseddau a niwed ar-lein.
Yn darparu gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi ichi siarad â nhw am unrhyw gamdriniaeth rydych chi wedi'i phrofi.
Cymorth a chyngor i bobl ifanc dan 18 oed. Gall Childline eich helpu i drefnu tynnu delweddau sydd wedi’u rhannu oddi ar y rhyngrwyd.
Riportio lluniau neu fideos camdriniaeth plant yn rhywiol yn ddienw ac yn gyfrinachol ar y rhyngrwyd.
Camfanteisio ar Blant ac Amddiffyn Ar-lein
Riportio camdriniaeth plant yn rhywiol ar-lein i wasanaeth yr heddlu, Camfanteisio ar Blant ac Amddiffyn Ar-lein.