Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth yw camdriniaeth drwy ddelweddau personol (pornograffi dial) |
2. Beth gallwch chi ei wneud: riportio'r peth i ni |
3. Riportio'r peth i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol os digwyddodd y peth ar-lein |
4. Help a chymorth |
Camdriniaeth drwy ddelweddau personol neu 'pornograffi dial' yw pan fydd rhywun yn rhannu, neu'n bygwth rhannu, lluniau neu fideos personol iawn ohonoch heb eich caniatâd.
Mae'n drosedd rhyw ddifrifol, sy'n cynnwys:
Gallai delwedd neu fideo personol ddangos rhannau dirgel rhywun yn agored neu yn eu dillad isaf. Gallai hefyd ddangos rhywun yn cael rhyw neu'n gwneud rhywbeth preifat yn eu hystafell ymolchi. Rhaid bod y ddelwedd neu'r fideo heb gael eu rhannu o'r blaen gyda chydsyniad.
Gall camdriniaeth drwy ddelweddau personol gynnwys rhywun rydych chi'n eu nabod, fel partner neu gyn-bartner. Ond efallai na fyddwch chi'n nabod y person. Gall gael ei gyflawni gan unrhyw un. Does dim ots pwy wnaeth hyn ichi: nid eich bai chi yw e byth. Nid chi sydd ar fai a dydych chi ddim wedi gwneud dim o'i le.
Mae blacmel rhywiol yn wahanol i gamdriniaeth drwy ddelweddau personol. Dyma pryd mae troseddwyr yn bygwth rhannu lluniau, fideos neu wybodaeth rywiol amdanoch chi oni bai eich bod yn talu arian neu'n gwneud rhywbeth arall nad ydych chi eisiau ei wneud. Mae'r ddau yn anghyfreithlon, ond does dim angen i chi weithio allan pa drosedd sy'n gymwys i chi. Riportiwch y peth i'r heddlu a byddan nhw’n penderfynu.
Os byddwch chi'n dioddef camdriniaeth drwy ddelweddau personol, fe allech chi deimlo pryder, ofn, diffyg ymddiriedaeth a fel pe bai rhywun wedi’ch treisio chi. Does dim ffordd gywir neu anghywir o deimlo, ac rydyn ni’n deall hynny. Mae help a chymorth ar gael ichi sut bynnag rydych chi'n teimlo.
Rydyn ni’n deall bod angen dewrder, ond riportio i ni yw'r cam cyntaf. Gallwn eich helpu i gael gwared ar y cynnwys personol, a rhoi'r gefnogaeth sydd arnoch ei hangen