Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth yw blacmel rhywiol |
2. Beth gallwch chi ei wneud: riportio'r peth i ni |
3. Riportio i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol os digwyddodd y peth ar-lein |
4. Help a chymorth |
Mae help a chymorth ar gael ichi os ydych chi wedi dioddef camdriniaeth rywiol neu os ydych chi’n ffrind, gofalwr neu riant i rywun sydd wedi dioddef.
Os byddwch chi’n riportio beth sydd wedi digwydd i'r heddlu, byddwn ni’n gofyn ichi ddweud a hoffech chi gael eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliad cymorth.
Darllenwch: Beth i'w ddisgwyl fel dioddefwr neu dyst i drosedd
Os nad ydych chi eisiau riportio i'r heddlu rydych chi’n dal yn gallu cael cymorth gan yr un sefydliadau.
Darllenwch: Cymorth i ddioddefwyr a thystion
Mae Llinell Gymorth Pornograffi Dial yn rhoi cymorth cyfrinachol am ddim i ddioddefwyr sy'n byw yn y Deyrnas Unedig.
Mae Stop NCII (Non-Consensual Intimate Image Abuse) yn adnodd am ddim i helpu i ganfod a dileu delweddau rhag cael eu rhannu ar-lein.
Mae'r Samariaid yn wasanaeth gwrando cyfrinachol am ddim ar gyfer unrhyw fater.
Mae Get Safe Online yn darparu gwybodaeth ffeithiol a hawdd ei deall am ddiogelwch ar-lein.
Mae Report Remove yn eich galluogi i riportio delweddau a fideos rhywiol ohonoch chi'ch hun yn gyfrinachol a'u tynnu oddi ar y rhyngrwyd.
Mae Childline yn rhoi cymorth cyfrinachol am ddim i bobl ifanc dan 19 oed.
Mae Young Minds yn elusen iechyd meddwl i blant a phobl ifanc gyda chymorth drwy negeseuon testun 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae Adran Addysg y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) yn rhoi cyngor i rieni, plant a phobl ifanc ar gadw'n ddiogel rhag camdriniaeth rywiol a meithrin perthynas amhriodol ar-lein.
Gall y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) helpu os ydych wedi dioddef gwe-rwydo neu hacio, neu os oes arnoch chi angen cyngor ar ddiogelu’ch data ar-lein.
Gall Action Fraud – Romance Fraud helpu os ydych chi'n meddwl bod partner rydych chi wedi cyfarfod â nhw ar-lein yn ceisio cael arian gennych chi ond nad yw'n eich bygwth neu’n defnyddio blacmel rhywiol. Yr enw ar hyn yn 'twyll rhamant'.